1

RHAGLEN DDYSGU

Cyfleoedd am ddim i bobl ifanc rhwng 4-19 oed mewn ysgolion, colegau a lleoliadau dysgu amgen

Ynglŷn â Rhaglen Ddysgu UNBOXED

Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn cynnig rhaglen ddysgu am ddim ledled y DU ar themâu sy'n dod â STEM a'r celfyddydau at ei gilydd.

Mwy o wybodaeth am Raglen Ddysgu UNBOXED

Pawb ar fwrdd y SEE MONSTER

Cofrestrwch i gael fideo i’w ddefnyddio mewn gwasanaeth a llyfrau am ddim ar gyfer llyfrgell eich ysgol

Mwy o wybodaeth am y fideo

Adnoddau gwersi

Dewch o hyd i gynlluniau gwersi am ddim ac adnoddau dysgu ar STEM a'r celfyddydau wedi'u mapio i'r cwricwlwm yn eich gwlad chi.

Pori ein hadnoddau gwersi

Cynllunydd yr Hydref

Defnyddiwch ein cynllunydd i weld sut y gallwn wella yr hyn y mae eich myfyrwyr yn ei ddysgu gyda gweithgareddau ac adnoddau UNBOXED yr hydref hwn.

Eich cynllunydd hydref

Heriau

Gadewch i'ch myfyrwyr ymgymryd â heriau am y gofod a osodwyd gan ofodwyr, peiriannydd ac awdur. Neu beth am gynnal cwis gyda’ch dosbarth gyda rhithganfyddiadau a darganfod sut mae eu canfyddiad nhw yn cymharu â dosbarthiadau mewn ysgolion eraill?

Cymryd rhan mewn heriau

Gweithdai ar-lein

Byddwch yn greadigol gyda gweithdai ar-lein am ddim sy'n datblygu sgiliau digidol ar thema’r gofod.  Mae'r rhain ar gael i ysgolion a grwpiau ar gyfer myfyrwyr rhwng 8-16 oed.

Mwy am weithdai ar-lein

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Mae Dreamachine wedi creu cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer athrawon. Dysgu sgiliau newydd, canolbwyntio ar les, a dod â chreadigrwydd i'r ystafell ddosbarth.

Gweld cyfleoedd DPP

Sioe deithiol

Cwrdd â thîm Rhaglen Ddysgu UNBOXED mewn gwyliau a chynadleddau o amgylch y DU.

Edrych ar sioe deithiol UNBOXED