Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Ynglŷn ag UNBOXED
Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn rhaglen o ddeg comisiwn mawr sydd wedi digwydd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, yn ogystal ag yn ddigidol, yn 2022.
Mae'r rhaglen am ddim, a gynlluniwyd i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, wedi cael ei chynnal rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2022, ac wedi denu cynulleidfa o fwy na 18 miliwn. Mae wedi dod â phobl at ei gilydd drwy ddigwyddiadau byw, cynnwys digidol ac wedi’i ddarlledu, a chyfleoedd dysgu a chyfranogi. Mae digwyddiadau byw wedi cael eu cynnal mewn 107 o leoliadau, llawer ohonynt mewn trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig nad ydynt yn cael eu gwasanaethu yn dda fel arfer gan fuddsoddiad diwylliannol mawr.
Mae UNBOXED yn ganlyniad i ddull arloesol o gomisiynu, gan fuddsoddi mewn cydweithrediad creadigol traws-sector digynsail rhwng pobl o'r sectorau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg (STEAM). Gweithiodd niwrowyddonwyr, astroffisegwyr, rhaglenwyr cyfrifiadurol a pheirianwyr strwythurol gyda beirdd, cerddorion, artistiaid a dylunwyr i ddatblygu syniadau i greu profiadau hynod ysbrydoledig, mewn proses ymchwil a datblygu wedi ei hariannu a gefnogodd nifer o sefydliadau creadigol a gweithwyr llawrydd yn ystod pandemig Covid-19. Ar draws y rhaglen, mae UNBOXED wedi cefnogi dros 6,000 o swyddi, gan gynnwys cyfleoedd i bobl ifanc a phobl greadigol sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r rhaglen ddigynsail yn cynnwys: taith wefreiddiol drwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes mewn sioe sain a golau gyda barddoniaeth a cherddoriaeth wedi ei chomisiynu'n arbennig (About Us); prosiect aml-ddigwyddiad sy'n dathlu tyfu cymunedol ac ailddychmygu gŵyl y cynhaeaf (Dandelion); prosiect gosodwaith celf ymgolli a phrosiect ymchwil yn ystyried canfyddiad a photensial di-derfyn y meddwl dynol (Dreamachine); archwiliad o'n dyfodol cyffredin a ffyrdd newydd o adrodd straeon ar draws cyfryngau byw, digidol a darlledu (GALWAD); miloedd yn dod at ei gilydd i greu celf mewn 20 o dirweddau mwyaf eithriadol y DU ar gyfer cyfres o raglenni a ddarlledwyd (Green Space Dark Skies); ail-greu cysawd yr haul fel llwybr cerfluniau ar raddfa 8.5km o hyd ar y Ddaear (Our Place in Space); gardd epig ar raddfa hudolus yng nghanol y ddinas a ysbrydolwyd gan ba mor amrywiol yw pobl a phlanhigion y DU (PoliNations); llwyfan alltraeth Môr y Gogledd wedi'i drawsnewid yn osodwaith celf i ysbrydoli sgyrsiau am ailddefnyddio a chynaliadwyedd (SEE MONSTER); profiad adrodd straeon ymgolli yn datgelu straeon cudd trefi a dinasoedd gan ddefnyddio technoleg 3D, AR a VR, ac yn cynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus (StoryTrails); a gŵyl aml-ddinas a grëwyd gan bobl ifanc ac ar eu cyfer gyda chenhadaeth i ddychmygu dyfodol gwell (Tour de Moon).
Mae UNBOXED wedi cynnig llawer o gyfleoedd dysgu, gwirfoddoli a chyfranogi i’r cyhoedd, ledled y DU ac ar-lein, gan gynnwys teithiau ysgol, gwersi, cynulliadau a gweithdai, cystadlaethau barddoniaeth a chodio, mentrau tyfu cymunedol a phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion.
Mae ei rhaglen ryngwladol wedi cyrraedd dros 85 o wledydd, gan feithrin cydweithrediadau diwylliannol newydd, rhannu profiadau sy'n arddangos creadigrwydd y DU, a dod â chymuned fyd-eang o ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd i gynnal rhagor o sgyrsiau hanfodol am rôl creadigrwydd ac arloesedd ar y cyd wrth greu dyfodol gwell i bobl a'r blaned.
Mae effaith y rhaglen yn parhau i gael ei deimlo ar ôl i’r digwyddiadau byw ddod i ben. Mae UNBOXED wedi buddsoddi mewn partneriaethau creadigol newydd ac wedi cefnogi cyfleoedd newydd i amrywiaeth o sefydliadau a phobl greadigol; bydd gosodweithiau parhaol a theithiol; ymchwil gwyddonol parhaus; adnoddau addysgu sy'n seiliedig ar y cwricwlwm; a'r effaith gadarnhaol ar yr 1.7 miliwn o blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi bod yn rhan o'r gweithgareddau dysgu trwy gydol y flwyddyn, ac wedi'u hysbrydoli ganddynt.
Cofrestru ar gyfer diweddariadau e-bost
Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn cael ei ariannu a'i gefnogi gan bedair llywodraeth y DU ac fe'i comisiynir ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Belfast, EventScotland a Cymru Greadigol.