1

Telerau a Pholisïau

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r wefan hon

 

Beth sydd yn y telerau hym?

Mae'r telerau hyn yn rhan o gytundeb rhyngoch chi, y defnyddiwr terfynol, a ni, (Festival 2022 Limited, fel y'u diffinnir isod), sy'n nodi'r rheolau ar gyfer defnyddio ein gwefan (Gwefan UNBOXED) a'r amodau ar gyfer cael unrhyw wybodaeth, dogfennau, cynhyrchion, gwasanaethau, hysbysebion neu gynnwys arall (Deunydd) sydd ar gael drwy Wefan UNBOXED.

Pwy ydym ni a sut i gysylltu a ni

Mae Festival 2022 Limited wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (rhif cwmni 12581221)  yn y cyfeiriad swyddfa gofrestredig One Brindley Place, Brindley Place, Birmingham, Lloegr, B1 2JB ("Festival 2022 Ltd"/”ein”/"ni").

Mae Festival 2022 Ltd yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Bwyllgor Trefnu Birmingham ar gyfer 2022 Commonwealth Games Ltd, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (rhif cwmni 11120160) yng nghyfeiriad swyddfa One Brindley Place, Brindley Place, Birmingham, Lloegr, B1 2JB (y “PT”).

Mae Festival 2022 Ltd a'r PT gyda'i gilydd yn ffurfio grŵp (y "Grŵp Cwmni"/"Partïon") lle mae'r PT yn unig aelod o Festival 2022 Ltd, ac mae'r partïon yn cydweithio er mwyn curadu, rheoli a hyrwyddo gŵyl genedlaethol o greadigrwydd ac arloesedd yn 2022 ("UNBOXED").

Cyflwynir UNBOXED mewn partneriaeth ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, dan ein harweiniad ni, gan weithio gyda Visit Scotland a Cymru Greadigol ein ("Cyrff Cyflawni Strategol") ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU gyda Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ("Cyllidwyr").

I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at: hello@unboxed2022.uk

Drwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn derbyn y telerau hyn

Drwy ddefnyddio Gwefan UNBOXED, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a'ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno â'r telerau hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio Gwefan UNBOXED.

Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o'r telerau hyn er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Byddwch yn ein hindemnio a'n hamddiffyn rhag pob hawliad, atebolrwydd, iawndal, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol, o ganlyniad i dorri'r telerau ac amodau hyn neu unrhyw ddefnydd o Wefan UNBOXED neu unrhyw Ddeunydd arni.

Mae telerau eraill a allai fod yn berthnasol i chi

Mae'r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i'ch defnydd o Wefan UNBOXED:

Ein Polisi Preifatrwydd. Gweler ymhellach o dan 'Sut y gallwn ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol'

Ein Polisi Cwcis, sy'n nodi gwybodaeth am y cwcis ar Wefan UNBOXED

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i'r telerau hyn

Gallwn ddiwygio'r telerau hyn o bryd i'w gilydd. Bob tro yr hoffech ddefnyddio Gwefan UNBOXED, gwiriwch y telerau hyn i sicrhau eich bod yn deall y telerau sy'n berthnasol bryd hynny.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i'n gwefan

Efallai y byddwn yn diweddaru ac yn newid Gwefan UNBOXED o bryd i'w gilydd.

Efallai y byddwn yn atal neu'n tynnu ein gwefan yn ol

Mae Gwefan UNBOXED ar gael yn rhad ac am ddim.

Nid ydym yn gwarantu y bydd Gwefan UNBOXED, nac unrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu'n ddi-dor. Gallwn atal neu dynnu'n ôl neu gyfyngu ar argaeledd y cyfan neu unrhyw ran o Wefan UNBOXED am resymau busnes a gweithredol. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi o unrhyw waharddiad neu dynnu'n ôl.

Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n defnyddio Gwefan UNBOXED drwy eich cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ymwybodol o'r telerau defnyddio hyn a thelerau ac amodau perthnasol eraill, a'u bod yn cydymffurfio â nhw.

Sut y gallwch ddefnyddio ein gwefan

Ac eithrio i'r graddau a nodir fel arall yn benodol ar Wefan UNBOXED, rydych yn ymrwymo ac yn gwarantu i ni:


(1) Na fyddwch yn defnyddio'r Deunydd at unrhyw ddiben anghyfreithlon;

(2) Na fyddwch yn gwneud unrhyw ddefnydd o Wefan UNBOXED fel bod Gwefan UNBOXED yn cael ei hamharu, ei difrodi neu ei gwneud yn llai effeithlon, neu fod nam ar ymarferoldeb Gwefan UNBOXED mewn unrhyw fodd;

(3) Na fyddwch yn copïo, atgynhyrchu, ail-lunio, dadgodio, datgysylltu, gwrth-beiriannu, dosbarthu, cyhoeddi,  arddangos, perfformio, addasu, uwchlwytho i greu gwaith deilliadol o, trosglwyddo neu mewn unrhyw ffordd arall fanteisio ar unrhyw ran o Wefan UNBOXED;

(4) Na fyddwch yn defnyddio Gwefan arall UNBOXED ar gyfer trosglwyddo neu bostio unrhyw firysau cyfrifiadurol neu unrhyw Ddeunydd sydd, yn ein barn ni yn unig, yn ddifenwol, yn dramgwyddus neu o gymeriad anweddus neu lidus, neu mewn modd sy'n achosi annifyrrwch, anghyfleustra neu bryder diangen i unrhyw berson;

(5) Na fyddwch yn defnyddio Gwefan UNBOXED mewn modd sydd, yn ein barn ni yn unig, yn gyfystyr ag ymyrryd neu dorri ar hawliau unrhyw berson neu gwmni (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hawliau hawlfraint, cyfrinachedd neu breifatrwydd);

(6) Na fyddwch yn defnyddio Gwefan UNBOXED i drosglwyddo unrhyw Ddeunydd at ddibenion cyhoeddusrwydd,  hyrwyddo a/neu hysbysebu ar eich rhan chi neu unrhyw un arall; a

(7) Pe byddai gennych unrhyw hawl, hawliad neu gamau gweithredu yn erbyn unrhyw berson arall sy'n deillio o ddefnyddio Gwefan UNBOXED, y byddwch yn mynd ar drywydd yr hawl, yr hawliad neu'r camau gweithredu hynny yn annibynnol arnom ni, a heb unrhyw atebolrwydd gennym ni.
 

Sut y cewch ddefnyddio deunydd ar ein gwefan

Ni yw perchennog neu drwyddedai'r holl hawliau eiddo deallusol ar Wefan UNBOXED, ac yn y Deunydd a gyhoeddir arno, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r holl destun, cynllun, graffeg, delweddau, ffotograffau, cynnwys fideo a sain, darluniau a gwaith celf arall. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ddiogelu gan gyfreithiau a chytuniadau hawlfraint ledled y byd. Cedwir pob hawl o'r fath.

Cewch argraffu un copi, a chewch lawrlwytho darnau, o unrhyw dudalen(nau) o Wefan UNBOXED at eich defnydd personol a chewch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at gynnwys a bostiwyd ar Wefan UNBOXED.

Ni ddylech addasu'r copïau papur na chopïau digidol o unrhyw Ddeunyddiau yr ydych wedi'u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau, delweddau, ffotograffau, cynnwys fideo neu sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.

Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron cynnwys ar Wefan UNBOXED bob amser.

Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o'r cynnwys ar Wefan UNBOXED at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr. Os ydych am gael trwydded, cysylltwch â: hello@unboxed2022.uk

Os byddwch yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o Wefan UNBOXED yn groes i'r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio Gwefan UNBOXED yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, ar ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r Deunyddiau rydych wedi'u gwneud.

Peidiwch â dibynnu ar wybodaeth ar ein gwefan

Darperir y cynnwys ar Wefan UNBOXED er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal rhag, unrhyw gamau gweithredu ar sail y cynnwys ar Wefan UNBOXED.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru'r wybodaeth ar ein Gwefan UNBOXED, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau na sicrhad, boed yn ddatganedig neu'n oblygedig, bod y cynnwys ar Wefan UNBOXED yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfredol.

Nid ydym yn gyfrifol am wefannau yr ydym yn cysylltu â nhw

Lle mae Gwefan UNBOXED yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Ni ddylid dehongli dolenni o'r fath fel cymeradwyaeth neu gadarnhad gennym ni o'r gwefannau neu'r wybodaeth gysylltiedig hynny y gallech eu cael ganddynt. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau na'r adnoddau hynny. Pan fyddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael Gwefan UNBOXED, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am gasglu, diogelu a phreifatrwydd eich gwybodaeth bersonol tra byddwch yn ymweld â safleoedd o'r fath, ac nid yw safleoedd o'r fath yn cael eu rheoli gan ein hysbysiad preifatrwydd. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar yr hysbysiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.

Os byddwch yn penderfynu contractio gydag unrhyw berson neu sefydliad o'r fath, bydd y contract yn uniongyrchol rhyngoch chi a'r parti arall hwnnw. Ni fydd gennym unrhyw gysylltiad cytundebol ac ni fyddwn yn atebol i chi mewn contract neu fel arall am unrhyw golledion neu iawndal a ddioddefwch mewn perthynas â chynhyrchion, gwybodaeth, Deunyddiau neu wasanaethau a ddarperir i chi gan unrhyw un o'r sefydliadau hyn ac o ganlyniad iddynt.

Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a ddioddefwyd gennych chi

I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym drwy hyn yn gwrthod yn benodol unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod, sut bynnag y mae’n codi, allan o neu mewn cysylltiad â'ch defnydd o Wefan UNBOXED neu unrhyw Ddeunydd arni. Mae hyn yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled uniongyrchol neu anuniongyrchol, colled neu ddifrod canlyniadol, colli elw neu ewyllys da, colled sy'n deillio o anallu i ddefnyddio, colled sy'n deillio o unrhyw wallau neu hepgoriadau ar Wefan UNBOXED, mewn unrhyw Ddeunydd ar Wefan yr Ŵyl, neu mewn unrhyw wefan trydydd parti y gallwch ei rhoi drwy Wefan UNBOXED, sy'n digwydd o ganlyniad i dorri contract, esgeulustod neu gamwedd arall. Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod, na'n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio o ran mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na'i gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol.

Sut y gallwn ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol

Byddwn ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel y nodir yn ein polisi preifatrwydd

Nid ydym yn gyfrifol am firysau a rhaid ichi beidio â'u cyflwyno

Nid ydym yn gwarantu y bydd Gwefan UNBOXED yn ddiogel neu'n rhydd o fygiau neu firysau.

Caiff unrhyw Ddeunydd y gellir ei lawrlwytho ei wirio'n ofalus ar gyfer firysau cyn cael ei lanlwytho i Wefan UNBOXED. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod, fel rhagofal ychwanegol, yn cynnal eich gwiriad firws eich hun ar unrhyw Ddeunydd yr ydych chi'n ei lawrlwytho.

Chi sy'n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a'ch platfform i gael mynediad i Wefan UNBOXED. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio Gwefan UNBOXED drwy gyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu Ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol yn fwriadol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i Wefan UNBOXED, y gweinydd y mae Gwefan UNBOXED yn cael ei storio arno neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â Gwefan UNBOXED. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar Wefan UNBOXED drwy ymosodiad gwadu gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig. Drwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith berthnasol am unrhyw doriad o'r fath a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt. Os bydd toriad o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio Gwefan UNBOXED yn dod i ben ar unwaith.

Rheolau ynghylch cysylltu â gwefan UNBOXED

Gallwch gysylltu â'n hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg ac yn gyfreithiol ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen mewn modd sy'n awgrymu unrhyw fath o gymdeithas, ganiatâd neu gymeradwyaeth ar ein rhan lle nad oes un yn bodoli.

Ni ddylech sefydlu dolen i Wefan UNBOXED yn neu o unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.

Ni ddylid fframio Gwefan UNBOXED ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o Wefan UNBOXED ac eithrio'r hafan.

Cyfreithiau pa wlad sy'n berthnasol i unrhyw anghydfodau?

Noder bod y telerau defnyddio hyn, eu pwnc a'u ffurfio (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gontractau), yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr. Rydych chi a ni yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw ac eithrio os ydych yn breswylydd o Ogledd Iwerddon, gallwch hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch hefyd ddwyn achos yn yr Alban.

Toradwyedd

Os penderfynir bod unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn anorfodadwy oherwydd y gyfraith yna, i'r graddau ac o fewn yr awdurdodaeth lle canfyddir bod y term neu'r amod hwnnw'n anghyfreithlon, yn annilys neu'n anorfodadwy, caiff ei dorri a'i ddileu a bydd gweddill y telerau ac amodau yn goroesi, yn parhau mewn grym ac effaith lawn, a bydd yn parhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy.

Diweddarwyd y telerau ac amodau ddiwethaf: Hydref 2021

Telerau ac Amodau Prynu Gorchymyn Prynu