Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw UNBOXED?
Mae UNBOXED: Creativity in the UK yn ddathliad bythgofiadwy o greadigrwydd – un o'r arddangosfeydd mwyaf uchelgeisiol o gydweithio creadigol a gynhaliwyd erioed yn y DU. Bydd yn digwydd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban ac ar-lein yn 2022.
Mae ein rhaglen nodedig yn cynnwys 10 prosiect creadigol gwahanol iawn, y cyfan wedi'u creu ar gyfer UNBOXED – ac mae'n cynnwys cannoedd o ddigwyddiadau, profiadau a gweithgareddau, yn fyw ac ar-lein. Mae pob digwyddiad yn ein rhaglen am ddim.
Pwy sy'n rhan o UNBOXED?
Mae 10 prosiect mawr UNBOXED yn cael eu creu gan rai o'r meddyliau disgleiriaf ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg. Mae'n dod ag amrywiaeth syfrdanol o bobl ledled y DU at ei gilydd: o wyddonwyr i gerddorion, dylunwyr i dechnolegwyr, peirianwyr i awduron, penseiri i astroffisegwyr.
Mae UNBOXED yn cael ei ddarparu gan dîm ymroddedig yn Birmingham.
Mae UNBOXED yn cael ei ariannu a'i gefnogi gan bedair llywodraeth y DU ac wedi’i gyd-gomisiynu gyda Chyngor Dinas Belfast, Cymru Greadigol ac EventScotland.
Beth yw 10 prosiect creadigol UNBOXED?
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob prosiect a'r timau y tu ôl iddynt ar dudalennau’r prosiectau:
About Us, Dandelion, Dreamachine, GALWAD, Green Space Dark Skies, Our Place in Space, PoliNations, See Monster, StoryTrails, Tour de Moon
Ble a phryd mae'n digwydd?
Bydd UNBOXED yn cael ei gynnal o 1 Mawrth i 2 Hydref 2022.
Bydd digwyddiadau, gweithgareddau a gosodiadau UNBOXED yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled y DU – o’r Hebrides Allanol i Dover, ac o Omagh i Abertawe. Byddwch hefyd yn gallu profi a mwynhau UNBOXED ar y teledu, ar y radio ac ar-lein.
Gwnaethom gyhoeddi ein 10 comisiwn anhygoel ym mis Hydref 2021, a byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion am ein digwyddiadau a'n gweithgareddau yn ystod y misoedd nesaf. I fod y cyntaf i glywed ein newyddion, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr am ddim
Faint fydd yn ei gostio i fod yn bresennol? Sut gallaf i gael tocynnau?
Mae holl ddigwyddiadau a gweithgareddau UNBOXED yn rhad ac am ddim.
Bydd angen i chi archebu tocynnau am ddim ar gyfer rhai digwyddiadau a gweithgareddau. Byddwn yn rhyddhau y manylion llawn o ran sut a phryd i archebu, a sut y gallwch ddweud wrthym am eich anghenion mynediad, yn 2022. Chi fydd y cyntaf i glywed y newyddion drwy ymuno â'n rhestr e-bost
Ar gyfer pwy y mae?
Pawb! Mae UNBOXED yn cynnwys amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau, yn fyw ac ar-lein, ar gyfer pobl o bob oed, cefndir a diddordeb.
A chaiff ysgolion, colegau a phrifysgolion gymryd rhan?
Yn bendant: bydd ein rhaglen dysgu a chyfranogi yn cyrraedd cannoedd o filoedd o blant a phobl ifanc ysgol ledled y DU. Byddwn yn cyhoeddi manylion dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf – a gallwch fod y cyntaf i glywed drwy gofrestru ar ein rhestr e-bost
Sut wnaethoch chi ddewis y 10 prosiect?
Lansiwyd galwad agored gennym am syniadau yn 2020. Gwnaeth tua 3,000 o sefydliadau, gweithwyr llawrydd a phobl greadigol eraill gais i gymryd rhan yn ein rhaglen ymchwil a datblygu, ac yn y pen draw cawsom 299 o gyflwyniadau i’w hasesu.
Ym mis Tachwedd 2020, cafodd 30 o dimau creadigol eu rhoi ar y rhestr fer gan gynrychiolwyr o dîm yr ŵyl a chyrff cyflawni Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, gyda mewnbwn gan grŵp o gynghorwyr creadigol. Ym mis Mawrth 2021, dewiswyd a chomisiynwyd chwe thîm ledled y DU, ynghyd ag un yr un ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, i wireddu eu syniadau ar gyfer UNBOXED.