Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
All Aboard SEE MONSTER - gwasanaeth ysgol
Adnoddau ar gyfer y dosbarth ac ar gyfer cynnal Gwasanaeth i blant 7-11 oed
- Date and time
-
13 Hydref - 5 Tachwedd - Ar-lein
Gwasanaeth
Mae ysgolion ledled y DU yn cymryd rhan yng ngwasanaeth All Aboard SEE MONSTER ddydd Iau 13 Hydref. Ymunwch â nhw! Defnyddiwch y fideo 12 munud hwn i alluogi eich disgyblion i ddringo ar fwrdd y platfform alltraeth sydd wedi'i drawsnewid yn osodwaith celf – y cyntaf yn y byd. Dysgwch am ailddefnyddio, y cylch dŵr a'r tywydd ym Mhrydain gan y gwyddonwyr a'r artistiaid a greodd SEE MONSTER. Cewch eich ysbrydoli i feddwl am eich syniadau eich hun i newid y byd.
Ar ôl y gwasanaeth gallwch wneud gweithgareddau yn y dosbarth, gan gynnwys y daflen gwrando a deall.
Edrych ar gysylltiadau'r cwricwlwm
Lawrlwytho Dalen Gwrando a Deall (PDF)
Adeiladu SEE MONSTER
Defnyddiwch y pecyn Adeiladu SEE MONSTER, a anfonwyd i bob ysgol a gofrestrodd ar gyfer All Aboard, i adeiladu eich Anghenfil eich hun ar gyfer y dosbarth. Byddwch yn greadigol a gofynnwch i’r disgyblion ei addurno. Rhowch lun ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan dagio @UNBOXED2022 a @SEEMONSTER gyda'r hashnod #OurSchoolSEEMONSTER i ennill gwerth £200 o gyflenwadau celf ar gyfer eich ysgol.
(Os nad ydych wedi derbyn pecyn 'Adeiladu SEE MONSTER' erbyn dydd Llun 17 Hydref, cysylltwch â learn@unboxed2022.uk)
Dringo ar yr anghenfil gyda'r daith rithiol
Os oes gan eich disgyblion fynediad at gyfrifiaduron, gadewch iddynt archwilio SEE MONSTER eu hunain gan ddefnyddio ein fideo 360 gradd. Cliciwch ar y fideos a phwyntiau gwybodaeth i ddysgu mwy. Cofiwch weld pa mor wahanol mae'n edrych yn y dydd, gyda’r nos ac yng nghanol nos.
Ymestyn eich astudiaethau SEE MONSTER
Mae gennym amrywiaeth eang o weithgareddau gwahanol y gallwch eu defnyddio i ddatblygu yr hyn y mae eich dosbarth yn ei ddysgu gyda SEE MONSTER. Mae pob un wedi’u mapio i gwricwlwm ar gyfer plant 7 i 11 oed.
Mwy o syniadau am weithgareddau SEE MONSTER
