Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Gweithdai Ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer gweithdai ar-lein am ddim sy'n datblygu sgiliau digidol ar y thema gofod sy'n addas i fyfyrwyr rhwng 8 a 16 oed.
- Date and time
-
September - November
- Publication date

Gweithdy Ar-Lein Adobe Spark: Bywyd yn y Gofod
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y byd am fywyd yn y gofod?
Beth am greu eich gwefan a’ch fideo eich hun i ddweud wrth y byd sut beth yw bod yn ofodwr yn y gofod.
Yn y gweithdy ar-lein hwn ar gyfer oedrannau 8–16, bydd myfyrwyr yn dechrau drwy ddysgu am ein Cysawd yr Haul a bywyd ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Yna byddan nhw'n dychmygu eu bod nhw'n ofodwyr sydd wedi ymweld â'r gofod yn ddiweddar – a gan ddefnyddio Adobe Spark, byddan nhw’n creu eu fideo, blog a thudalen we eu hunain i sôn am eu profiad yn y gofod: sut brofiad yw bod yno, beth maen nhw'n ei fwyta ac ati.
Mae'r gweithdy Adobe Spark hwn yn un o saith gweithdy ar-lein am ddim sydd wedi'u hysbrydoli gan Our Place in Space ac sydd ar gael i ysgolion y DU drwy Zoom neu lwyfan tebyg. Gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich dosbarth drwy anfon neges e-bost i learning@ourplaceinspace.earth
Gweithdy Ar-Lein Adobe Spark: Y Ddaear
Sut gallwn ni greu dyfodol gwell i'n planed?
Ystyriwch sut y gallem ni edrych ar ôl ein planed yn well – ac yna gwahodd eraill i wneud yr un peth.
Wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr 8–16 oed, mae'r gweithdy ar-lein hwn y gellir cofrestru ar ei gyfer yn dechrau drwy gynnig trosolwg o fywyd ar y Ddaear, gan archwilio gwahanol ffyrdd y gallem i gyd wneud mwy i'w ddiogelu. Bydd y myfyrwyr yn creu eu fideo, blog a'u tudalen we eu hunain sy'n nodi ac yn datblygu’r trafodaethau hyn - gan annog pawb i greu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy iddyn nhw eu hunain a'u planed.
Mae'r gweithdy Adobe Spark hwn yn un o saith gweithdy ar-lein am ddim sydd wedi'u hysbrydoli gan Our Place in Space ac sydd ar gael i ysgolion y DU drwy Zoom neu lwyfan tebyg. Gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich dosbarth drwy anfon neges e-bost i learning@ourplaceinspace.earth
Gweithdy Ar-lein Scratch: Ein Cysawd yr Haul
Sut beth yw bod yn ofodwr?
Sut deimlad yw teithio i'r gofod?
Mae'r gweithdy ar-lein hwn yn gwahodd myfyrwyr rhwng 8 a 14 oed i ddarganfod Cysawd yr haul drwy greu eu stori ddigidol eu hunain gan ddefnyddio llwyfan codio Scratch. Yn ystod y gweithdy 90 munud, bydd myfyrwyr yn dysgu rhai egwyddorion sylfaenol codio gan ddatblygu dealltwriaeth o'n system blanedau a lle'r Ddaear ynddi ar yr un pryd.
Mae'r gweithdy codio Scratch hwn yn un o saith gweithdy ar-lein ddim sydd wedi'u hysbrydoli gan Our Place in Space ac sydd ar gael i ysgolion y DU dros Zoom neu lwyfan tebyg. Gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich dosbarth drwy anfon neges e-bost i learning@ourplaceinspace.earth
Gweithdy Ar-lein Scratch: Goresgynwyr y Gofod
Creu gêm ofod gan ddefnyddio meddalwedd am ddim
Bydd myfyrwyr 8-14 oed yn dysgu sut i ddefnyddio llwyfan codio Scratch i greu eu gêm ar ffurf ‘Space Invaders’ eu hunain yn y gweithdy ar-lein am ddim hwn. Ar ôl cael eu cyflwyno i rai o egwyddorion codio, bydd myfyrwyr yn cael eu harwain drwy'r broses o wneud eu gêm eu hunain – ac yna byddan nhw’n dysgu sut i'w haddasu, gan ei gwneud hi'n haws neu'n anoddach i'w gwrthwynebydd eu curo nhw.
Mae'r gweithdy codio Scratch hwn yn un o saith gweithdy ar-lein am ddim sydd wedi'u hysbrydoli gan Our Place in Space ac sydd ar gael i ysgolion y DU dros Zoom neu lwyfan tebyg. Gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich dosbarth drwy anfon neges e-bost i learning@ourplaceinspace.earth
Gweithdy Ar-lein Animeiddio Gofod: Adobe After Effects
Defnyddio meddalwedd golygu o safon y diwydiant i greu animeiddiad gofod
Mae'r gweithdy ar-lein hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rhwng 11 a 16 oed greu eu hanimeiddiad 2D eu hunain wedi'u hysbrydoli gan y gofod gan feithrin dealltwriaeth well o'n Cysawd yr Haul hefyd. Mae'r gweithdy dwy awr yn archwilio sgiliau a thechnegau animeiddio allweddol yn Adobe After Effects, y meddalwedd graffeg symudol a meddalwedd effeithiau gweledol o safon y diwydiant, cyn cefnogi myfyrwyr i wneud eu hanimeiddiad After Effects eu hunain ym mha bynnag naws, fformat ac arddull sydd orau ganddyn nhw.
Mae'r gweithdy animeiddio hwn yn un o saith gweithdy addysgol am ddim sydd wedi’u hysbrydoli gan Our Place in Space ac sydd ar gael i ysgolion y DU drwy Zoom neu lwyfan tebyg. Gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich dosbarth drwy anfon neges e-bost i learning@ourplaceinspace.earth
Gweithdy Ar-Lein Animeiddio Gofod: Creu GIF
Gwnewch eich animeiddiad gofod eich hun yn y gweithdy ar-lein hwn
Mae'r gweithdy ar-lein am ddim hwn wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth o'n Cysawd yr Haul i fyfyrwyr rhwng 8–11 oed. Bydd hefyd yn eu helpu i greu eu GIF animeiddiedig wedi'i ysbrydoli gan y gofod eu hunain, megis estron hwyliog, planed yn troelli, roced yn tanio a chodi neu ryw animeiddiad arall wedi'i ysbrydoli gan y gofod – y gallan nhw wedyn ei rannu gyda'u ffrindiau.
Mae'r gweithdy animeiddio hwn yn un o saith gweithdy addysgol am ddim sydd wedi’u hysbrydoli gan Our Place in Space ac sydd ar gael i ysgolion y DU drwy Zoom neu lwyfan tebyg. Gallwch drefnu'r gweithdy ar gyfer eich dosbarth drwy anfon neges e-bost i learning@ourplaceinspace.earth
Gweithdy Ar- Lein Animeiddio Gofod: Rotosgopio
Trawsnewid eich hun yn ofodwr gan ddefnyddio animeiddio
Mae'r gweithdy ar-lein am ddim hwn yn rhoi trosolwg o'n Cysawd yr Haul i fyfyrwyr 8–14 oed gan hefyd eu cyflwyno i rotosgopio, techneg sy'n cynnwys dargopïo pob ffrâm o fideo neu ffilm o gymeriadau go iawn i greu animeiddiad.
Gan ddefnyddio technegau rotosgopio, bydd myfyrwyr yn trawsnewid eu hunain yn ofodwyr, seiborgiaid o’r dyfodol neu ryw greadur arall a all fod yn byw yn y gofod. Yn ystod y broses, byddan nhw’n dysgu sgiliau allweddol ar gyfer animeiddio, arlunio a golygu digidol.
Mae'r gweithdy animeiddio hwn yn un o saith gweithdy ar-lein am ddim sydd wedi’u hysbrydoli gan Our Place in Space ac sydd ar gael i ysgolion y DU drwy Zoom neu lwyfan tebyg. Gallwch drefnu’r gweithdy ar gyfer eich dosbarth drwy anfon neges e-bost i learning@ourplaceinspace.earth