Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
See Monster - Weston-super-Mare
The Tropicana
- Date and time
-
28 Awst - 20 Tachwedd
- Publication date

Mae SEE MONSTER yn weithred ryfeddol o greadigrwydd ar y cyd – platfform alltraeth a ddigomisiynwyd o Fôr y Gogledd wedi’i ail-greu yn osodiad celf mawr newydd yn Weston-super-Mare.
Gan harneisio ynni adnewyddadwy o dywydd gwych Prydain, bydd y SEE MONSTER yn cynnwys arbrofion, perfformiadau, gerddi a rhaeadrau – a’r cyfan yn arddangos arloesi lleol ac yn dangos sut y gall creadigrwydd herio a newid y drefn arferol.
Mae tair ffordd o brofi’r anghenfil a’r cyfan yn gwbl am ddim. Arsylwch o bell wrth i chi gerdded ar hyd glan y môr yn Weston-super-Mare, dewch i mewn i’r Tropicana a gweld yr anghenfil o lwyfan gwylio, neu o ddydd Sadwrn 24 Medi, profwch y cyfan drwy ddringo ar fwrdd y SEE MONSTER.
Ar fwrdd y SEE MONSTER mae pedair lefel hygyrch i’w harchwilio.
- Ar y lefel waelod profwch ru'r anghenfil o’r rhaeadr 10 metr;
- Ar lefel 1, dec y seler, byddwch yn cael profiad ymdrochi o’r tywydd;
- Ar lefel 2, Labordy’r Ardd, byddwch yn dysgu mwy am ynni adnewyddadwy trwy WindNest, coed solar a cherfluniau cinetig ymysg yr ardd lan môr.
- Ar lefel 3 ar frig yr anghenfil, mae’r helidec yn cynnwys yr amffitheatr yn ogystal â golygfeydd newydd a heb eu hail ar draws Weston-super-Mare, allan i’r môr ac ar ddiwrnod clir, i arfordir Cymru.
Ar y ffordd i lawr, peidiwch â cholli cyfle i gael tro ar y sleid aml-lefel sy’n cynnig ffordd arall o fynd i lawr trwy’r anghenfil.
Cadwch lygad am ddigwyddiadau arbennig a gwrandewch ar BBC Radio Bristol a fydd yn darlledu’n fyw o’r SEE MONSTER o ddiwedd mis Medi hyd fis Tachwedd.