1

Ymunwch â’r tîm

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni? Edrychwch ar ein swyddi gwag diweddaraf a chyflwynwch gais

Mae ein tîm gwych yn Birmingham yn cyflwyno UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU ar draws y DU yn 2022. Os hoffech chi ymuno â ni ar y daith ryfeddol hon, parhewch i ddarllen i gael manylion ein swyddi gwag presennol.

Rydym ni'n gyflogwr cyfle cyfartal - rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir a chymunedau amrywiol. Rydym hefyd yn gyflogwr Ymroddedig Hyderus o ran Anabledd, ac rydym yn cynnig cyfweliad wedi’i warantu i unrhyw un sydd ag anabledd y mae ei gais yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. Rydym wedi ymrwymo i’r canlynol:

  • Sicrhau bod ein proses recriwtio yn gynhwysol a hygyrch
  • Cyfathrebu a hyrwyddo swyddi gwag
  • Cynnig cyfweliadau i bobl anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd
  • Rhagweld a darparu addasiadau rhesymol yn y gweithle yn ôl y gofyn
  • Cefnogi unrhyw weithiwr presennol sy'n dod yn anabl neu’n datblygu cyflwr iechyd hirdymor, gan ei alluogi i aros yn y gwaith

Darllenwch ragor am y fenter Hyderus o ran Anabledd yn disabilityconfident.campaign.gov.uk

Cyfleoedd presennol

Nid oes gennym unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd. Edrychwch eto nes ymlaen.

________________________________________________________________

Cyfleoedd partner

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r 10 cydweithfa sy'n creu'r digwyddiadau rhyfeddol a'r profiadau bythgofiadwy yn y rhaglen UNBOXED. Byddwn yn rhestru eu swyddi gwag yma, a gallwch hefyd edrych ar eu gwefannau eu hunain i weld a ydyn nhw'n cyflogi. Gallwch ddod o hyd i ddolenni i'w safleoedd annibynnol ar dudalennau'r prosiect ar unboxed2022.uk

Mae'n werth nodi, os byddwch yn gwneud cais am swydd gydag un o'n partneriaid, y byddwch yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol ganddyn nhw ac nid gennym ni.

Eich data

Rydym yn cymryd preifatrwydd data o ddifrif. Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgeiswyr cyn gwneud cais am unrhyw swydd wag. Mae'r hysbysiad yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio eich data personol, a gallwch ei ddarllen yma