Cyfleoedd DPP
Archwiliwch ein cyfleoedd DPP personol ac ar-lein gan Dreamachine ar les athrawon.
Yn Dod yn Fuan: Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Athrawon wyneb yn wyneb ac ar-lein o Our Place in Space.
Dreamachine
Gweithgareddau Dosbarth am Les Creadigol
Mae tîm Dreamachine wedi gweithio gyda'r Coleg Addysgu Siartredig a'r elusen Education Support i greu cyfres o dair sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i athrawon. Mae'r sesiynau ar gael i bob athro ac maen nhw’n gwbl am ddim.
Mae'r weminar DPP am ddim hon yn archwilio sampl o weithgareddau ystafell ddosbarth y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo lles. Bydd Shermaine Slocombe, artist, ymarferydd creadigol ac awdur adnoddau ysgolion Dreamachine, yn dangos rhai o'i gweithgareddau o'r gyfres o gynlluniau gwersi Dreamachine sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles.
Arweinyddiaeth a Lles Athrawon
Gweminar DPP am ddim ar gefnogi lles athrawon
Mae tîm Dreamachine wedi gweithio gyda’r Coleg Addysgu Siartredig a'r elusen Education Support i greu cyfres o dair sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i athrawon. Mae'r sesiynau ar gael i bob athro ac maen nhw’n gwbl am ddim.
Mae'r weminar DPP am ddim hon yn canolbwyntio ar wyddoniaeth lles, ac ar wahanol ddulliau y gall uwch arweinwyr ysgolion, penaethiaid a llywodraethwyr eu defnyddio i gefnogi lles eu haddysgwyr. Cyflwynir y weminar gan yr Athro Fonesig Alison Peacock, Prif Swyddog Gweithredol y Coleg Addysgu Siartredig, a Sinéad Mc Brearty, Prif Swyddog Gweithredol Education Support, ac mae'n cynnwys sesiwn holi ac ateb.
Trafodaeth am Les Athrawon
Trafodaeth DPP am ddim am reoli iechyd meddwl
Mae tîm Dreamachine wedi gweithio gyda'r Coleg Addysgu Siartredig a'r elusen Education Support i greu cyfres o dair sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i athrawon. Mae'r sesiynau ar gael i bob athro ac maen nhw’n gwbl am ddim.
Mae'r sesiwn DPP am ddim hon yn annog sgyrsiau dewr ar reoli iechyd meddwl i athrawon. Mae'n canolbwyntio ar awgrymiadau lles ymarferol a ffyrdd ystyrlon y gallwch eu gwneud yn rhan o'ch bywyd pan fyddwch yn teimlo dan bwysau neu dan straen.