Discover More about UNBOXED
Check out the Discover More section to stay up-to-date with all the UNBOXED content
Ynglŷn ag UNBOXED
Darganfod mwy
Mae UNBOXED: Creativity in the UK yn ddathliad bythgofiadwy o greadigrwydd, fydd yn digwydd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban ac ar-lein o fis Mawrth i fis Hydref 2022.
Byddwn yn datgelu 10 syniad newydd anhygoel, wedi’u llunio ar draws meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg gan feddyliau disglair yn gweithio mewn cydweithrediadau annisgwyl. Mae digwyddiadau rhagorol a phrofiadau unigryw yn dod i leoedd a gwagleoedd ledled y DU: o drefi’r arfordir a chanol dinasoedd i ardaloedd o harddwch naturiol anhygoel.
Byddwch yn gallu profi UNBOXED yn bersonol, ar y teledu, ar y radio ac ar-lein – y cyfan yn rhad ac am ddim. Ac rydym ni eisiau i chi gymryd rhan ym mhob rhan o’r flwyddyn arbennig hon: ymgymryd â’n rhaglenni dysgu ledled y DU, cymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau arbennig, hyd yn oed bod â rôl ganolog wrth wireddu un neu fwy o’r 10 o brosiectau syfrdanol hyn.
Ewch ar daith amlgyfrwng gyffrous drwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes yn About Us, a dewch i blannu wrth i Dandelion ailddyfeisio gwasanaeth y cynhaeaf ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain. Rhyddhewch botensial diddiwedd y meddwl yn Dreamachine, gwibiwch dri degawd i’r dyfodol gyda GALWAD: A Story from our Future, a byddwch yn un o 20,000 o ‘Lwmenyddion’ dathlu ein tirweddau hardd yn y DU yn Green Space Dark Skies. Cewch archwilio cysawd yr haul yma ar y Ddaear yn Our Place in Space, teithio coedwig-gardd hudol yng nghanol y ddinas gyda PoliNations, a dringo ar blatfform alltraeth ar ei newydd wedd ym Môr y Gogledd yn SEE MONSTER. Bydd StoryTrails yn animeiddio ac yn amlygu hanesion cudd ein trefi a’n dinasoedd – ac mae Tour de Moon yn ŵyl fawr sydd wedi ei chreu drwy gydweithredu â’n lloeren loerol.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr ar e-bost
UNBOXED: Creativity in the UK yw’r rhaglen greadigol fwyaf a mwyaf uchelgeisiol i gael ei chyflwyno ar ein glannau erioed. Caiff ei hariannu a’i chefnogi gan bedair llywodraeth y DU, a’i chyd-gomisiynu gan Gyngor Dinas Belfast, EventScotland a Cymru Greadigol. Ymunwch â miliynau i archwilio sut y gall creadigrwydd – ein creadigrwydd ni – fod â’r pŵer i newid y byd.