
Green Space Dark Skies
Ebrill – Medi 2022
Mae Green Space Dark Skies yn archwiliad o’n byd naturiol. Rydym yn gwahodd 20,000 o bobl i oleuo ein tir mewn dathliad ledled y DU o’r awyr agored.
Rydym yn gwahodd 20,000 o bobl i ymuno â ni ar gyda’r hwyr mewn dathliad ledled y DU o’r awyr agored
Cynulliadau torfol yn dathlu ein cefn gwlad, ein hawl i’w archwilio – a’n cyfrifoldeb i ofalu amdano
Pryd a ble
|
Addas i bob oed*
*Rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn
Mynediad am ddim*
*Archebwch le am ddim ymlaen llaw
Archwilio, mwynhau, amddiffyn
Green Space Dark Skies yn daith yn ddwfn i’n tirweddau naturiol: cyfres o gynulliadau torfol sy’n dathlu ein cefn gwlad, ein hawl i’w harchwilio – a’n cyfrifoldeb i ofalu amdano ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym ni’n gwahodd 20,000 o bobl i fod yn Lwmenyddion – gyda goleuadau technoleg uwch, effaith isel arbennig wedi’u cynllunio’n arbennig gan bartner technoleg Siemens. Byddwn ni’n mynd i 20 o leoedd gwyllt a phrydferth ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a’r Alban. Ac yna, gyda’n gilydd, wrth i frig yr hwyr ddisgyn, byddwn ni’n creu gwaith celf awyr agored anhygoel o’n goleuadau a’n tirweddau. Bydd yr eiliadau pwerus hyn yn cael eu dal ar gamera cyn i’n taith cefn gwlad gau ym mis Medi: diweddglo ledled y DU, a fydd yn cael ei ddarlledu i filiynau.
Ymunwch ag arloeswyr celfyddydau awyr agored Walk the Plank a 20,000 o Lwmenyddion eraill i ddathlu ein hawl i fwynhau ein cefn gwlad gwerthfawr – a’n cyfrifoldeb i’w ddiogelu i bawb, am byth.



