1
A green alien-type creature with its pink entrails on the floor

Tour de Moon

Mai - Mehefin 2022

Mae Tour de Moon yn daith gosmig i bosibiliadau yfory: sioeau byw, bywyd nos, profiadau digidol a mwy wedi'u creu mewn cydweithrediad â'r Lleuad.

Sianeli cymdeithasol:

Ewch ar antur gosmig i’r dyfodol, wedi’i chreu mewn cydweithrediad â’n lloeren gyfanfydol – y Lleuad

Perfformiadau, gosodiadau, arbrofion a phrofiadau syfrdanol wedi’u creu gan gasgliad o artistiaid, cerddorion, awduron, technolegwyr ac arloeswyr creadigol

Pryd a ble

 Y Gwyliau:

13 - 16 Mai Across Leicester
27 - 30 Mai Across Newcastle
10 - 13 Mehefin Across Southampton

 Confoi'r Lleuad:

11 Mai, 6pm - 10.30pm Bletchley - Stanier Square
12 Mai, 6pm - 10.30pm Wolverhampton - Old Market Square
13 Mai, 3pm - 9pm Leicester - Humberstone Gate
14 Mai, 1.30pm (Parade) Leicester - Humberstone Gate
17 Mai, 6pm - 10.30pm Grimsby - St James' Square
18 Mai, 6pm - 10pm Huddersfield - St George's Square
19 Mai, 6pm - 10pm Blackburn - Cathedral Square
20 Mai, 6pm - 10.30pm Barrow in Furness - Duke Street, Town Square
28 Mai, 3pm - 9pm Newcastle - Nelson Street
29 Mai, 6.30pm (Parade) Newcastle - Nelson Street
8 Mehefin, 6pm - 9pm Plymouth - Central Park Events Space
10 Mehefin, 3pm - 9pm Southampton - South Bargate
10 Mehefin, 6.30pm (Parade) Southampton - South Bargate
14 Mehefin, 6pm - 10.30pm Farnborough - Queensmead Car Park
15 Mehefin, 6pm - 10.30pm Crawley - Queens Square
16 Mehefin, 2pm - 8pm Hackney - Pedro Youth Club

Gadewch i ni freuddwydio ein dyfodol gyda’n gilydd

Gan ddod â sgyrsiau, sinema, cerddoriaeth a gemau at ei gilydd o dan un thema gosmig – mae Tour de Moon yn dathlu'r berthynas rhwng y ddaear a'r lleuad gyda nifer o brofiadau cyffrous a gwreiddiol sy'n ysgogi'r meddwl; a phwyslais arbennig ar fywyd nos, creadigrwydd a diwylliant. 

Ar ei daith epig ar draws y wlad, bydd Tour de Moon yn stopio yng Nghaerlŷr, Newcastle a Southampton drwy gydol mis Mai a Mehefin lle bydd pedwar diwrnod o ddigwyddiadau rhyngweithiol yn cael eu cynnal ym mhob dinas, gan apelio at bawb o dimau chwaraeon amatur i bobl sy'n hoff o gerddoriaeth. 

Ynghyd â’r tair prif ddinas, bydd Moon Convoy yn ymweld â Bletchley, Wolverhampton, Grimsby, Huddersfield, Blackburn, Barrow-in-Furness, Plymouth, Farnborough a Crawley, gan orffen yng Nghlwb Ieuenctid Pedro Hackney – un o'r sefydliadau ieuenctid hynaf yn y DU.

Mae wyth llinyn gwahanol i Tour de Moon: o Moon Cinema i Moon Music, o'r Moon Hotline rhyngweithiol i'r Moon Convoy teithiol. Mae'r rhaglen wedi'i chreu gyda chymorth cannoedd o bobl greadigol 18 i 25 oed o bob rhan o'r DU, wedi'u denu drwy alwad agored rhydd.

Ar draws Lloegr ac ar-lein, dewch ar antur gosmig a grëwyd mewn cydweithrediad â'n lloeren gyffredin – y Lleuad