
PoliNations
Mae PoliNations yn coedwig-gardd hudolus yng nghanol y ddinas - dathliad goruwchnaturiol o liw, harddwch ac amrywiaeth naturiol sy'n dod i ben gyda pharti trawiadol.
Mae’r byd naturiol yn dod i galon y ddinas – archwiliwch, mwynhewch a byddwch wir yn chi eich hun
Camwch i coedwig-gardd anhygoel yng nghanol y ddinas: lle rhyfeddol goruwchnaturiol sy’n llawn lliw, harddwch ac amrywiaeth
Pryd a ble
4 - 13 Awst | Mother Tree, George Street, Edinburgh |
15 - 18 Medi | Ballistic Seed Party, Victoria Square, Birmingham |
Addas i bob oed
Mynediad am ddim
Polinations
Parti yn ein parc
Mae PoliNations yn brofiad ymgolli hudolus mewn lliw a natur. Ymunwch â ni i ryfeddu, chwarae a dathlu amrywiaeth naturiol ein parciau, ein gerddi a’n mannau agored eang – i gyd wedi’u dwyn ynghyd mewn gardd goedwig epig yng nghanol y ddinas.
Mae gwerddon enfawr o blanhigion a blodau yn blodeuo yn Birmingham yr haf hwn: yn ymestyn yn bell, yn ehangu ar led ac yn sefyll yn uchel. I fyny yn yr awyr, bydd coed pensaernïol enfawr yn yfed dŵr glaw ac yn creu trydan o’r gwynt – ac i lawr ar y ddaear, bydd cerddoriaeth, iaith lafar, teithiau, sioeau goleuadau, gweithdai dylunio a phrofiadau amlsynnwyr, popeth am ddim. Mae PoliNations hefyd yn dod i Gaeredin ym mis Awst, gyda cherddoriaeth am ddim a mwy o dan goeden 40 troedfedd ar George Street.
Mae PoliNations yn ddathliad llawen o harddwch ac amrywiaeth – ac mae’n gorffen gyda pharti disglair drwy’r dydd a’r nos yn ein parc. Welwn ni chi yno?
Mae PoliNations yn rhan o Ŵyl Birmingham 2022.