1

Datganiad hygyrchedd gwefan

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i unboxed2022.uk

Mae UNBOXED: Creativity in the UK yn ddathliad bythgofiadwy o greadigrwydd, sy'n digwydd ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban ac ar-lein o fis Mawrth i fis Hydref 2022.

Rydym eisiau i UNBOXED fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl ar gyfer gweithgareddau ar-lein a ffisegol sy'n digwydd ar draws rhaglenni'r digwyddiad.

Mae ystyriaeth yn cael ei wneud i bobl â gofynion hygyrchedd, gan sicrhau profiad diogel, annibynnol ac urddasol i bawb.

Rheolir gwefan UNBOXED gan ein tîm digidol mewnol gyda chymorth parhaus gan Numiko  Limited ar ran UNBOXED a Festival 2022 Limited.

Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon ac rydym wedi dilyn safonau'r diwydiant ar gyfer hygyrchedd. Rydym hefyd wedi gweithio'n galed i wneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch, yn anffodus. Ar hyn o bryd rydym yn cwblhau ein harchwiliad hygyrchedd a byddwn yn cyhoeddi manylion ar y dudalen hon cyn gynted â phosibl.

Ymdrinnir ag unrhyw ddiffygion a nodwyd a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf erbyn mis Rhagfyr 2021.

BETH I'W WNEUD OS NA ALLWCH GAEL MYNEDIAD I RANNAU O'R WEFAN HON

Os oes angen help arnoch i gyrchu neu ddefnyddio gwefan UNBOXED, gallwch gysylltu â'n tîm digidol ar online@unboxed2022.uk

RHOI GWYBOD AM BROBLEMAU HYGYRCHEDD GYDA'R WEFAN HON

Os ydych yn dod o hyd i neu os oes gennych unrhyw broblemau gyda gwefan UNBOXED neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod i ni yn online@unboxed2022.uk

GWEITHDREFN ORFODI

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS)

GWYBODAETH DECHNEGOL AM HYGYRCHEDD Y WEFAN HON

Mae Numiko Limited ar ran UNBOXED a Festival 2022 Limited wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, oherwydd y diffyg cydymffurfio a fydd yn cael ei restru ar y dudalen hon pan fydd ein harchwiliad wedi'i gwblhau.

CYNNWYS NAD YW'N HYGYRCH

Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i sicrhau hygyrchedd gwefan UNBOXED rydym yn disgwyl y bydd rhai cyfyngiadau. Ar hyn o bryd rydym yn cwblhau ein harchwiliad hygyrchedd a byddwn yn rhestru'r cyfyngiadau hynny isod.

Cysylltwch â ni yn online@unboxed2022.uk os byddwch yn gweld unrhyw faterion eraill.

SUT Y GWNAETHOM BROFI'R WEFAN HON

Mae ein hygyrchedd ar y gweill ar hyn o bryd a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn 21/10/2021. Mae'r prawf yn cael ei gynnal gan AccessibilityOz.

Paratowyd y datganiad hwn ar 20/10/2021 a chaiff ei ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2021.