1
Dandelion

Dandelion

Mehefin - Medi 2022

Tyfu yw’r nod yn Dandelion – gŵyl gynhaeaf ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd yn cael ei chynnal ledled yr Alban a dyma'r rhaglen dyfu fwyaf y cyfnod cyfoes.

Heuwch a thyfwch gnydau o bob ffurf a maint, yna dewch at eich gilydd adeg y cynhaeaf i goginio, bwyta a mwynhau

Ymunwch â phobl ledled yr Alban i ddathlu chwe mis o gydweithio, creu a gweithredu ar y cyd

Pryd a ble

8 Ebrill - 11 Medi  Gerddi Annisgwyl ar draws yr Alban
28 Mai - 23 Gorffennaf Free for Alls
17 - 19 Mehefin Dandelion Festival - Kelvingrove Park, Glasgow
2 - 4 Medi Dandelion Festival - Northern Meeting Park, Inverness
9 - 11 Medi Cynhaeaf Medi

Addas i bob oed

Mynediad am ddim

Mae unrhyw beth yn tyfu

Cyfle i ailddarganfod eich cysylltiadau â’r bwyd yr ydych chi’n ei fwyta gyda Dandelion, rhaglen chwe mis sy’n digwydd ledled yr Alban – a dathlu’r llawenydd o rannu’r hyn yr ydych chi’n ei blannu, ei dyfu a’i goginio gyda’r rhai o’ch cwmpas.

Mae Dandelion wedi’i wreiddio yn y cysyniad o ‘Hau, Tyfu a Rhannu’: nid yn unig bwyd, ond hefyd cerddoriaeth, syniadau, gwybodaeth a chymuned. Tyfwch gnydau gartref o hadau am ddim wedi’u darparu gan dîm Dandelion. Gwrandewch ar gerddoriaeth newydd, wedi’i chomisiynu a’i chreu yn arbennig ar ein cyfer. Ymunwch â ni mewn gwyliau mawr am ddim yn Glasgow ac Inverness. Dewch yn wyddonydd dinasyddion iau gyda’n menter tyfu enfawr i ysgolion. Ewch i un o’n Cubes of Perpetual Light - yn rhannol yn waith celf, yn rhannol yn labordy. A chysylltwch â’ch cymuned mewn Gŵyl Gynhaeaf yr 21ain ganrif, lle byddwn ni’n coginio canlyniadau ein hantur tyfu epig. 

Comisiynir Dandelion gan EventScotland a’i ariannu drwy Lywodraeth yr Alban.