Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over
20.5 million people across all four nations of the UK.

StoryTrails
Haf-Hydref 2022
Mae StoryTrails yn edrych yn fanwl ar ein hanes cyfunol – yn brofiad trochi AR a VR hudolus i hanesion cudd sydd wedi llunio 15 o drefi a dinasoedd y DU.
Ymgollwch mewn straeon coll o’n gorffennol, yn cael eu gwireddu gan dechnoleg yr 21ain ganrif ledled y DU
Ffordd newydd hudolus o archwilio’r straeon a luniodd lle’r ydym ni’n byw a phwy yr ydym ni
Pryd a ble
1 - 2 Gorffennaf | Omagh |
7 - 8 Gorffennaf | Dundee |
12 - 13 Gorffennaf | Dumfries |
16 - 17 Gorffennaf | Blackpool |
22 - 23 Gorffennaf | Bradford |
27- 28 Gorffennaf | Sheffield |
30 - 31 Gorffennaf | Lincoln |
6 - 7 Awst | Wolverhampton |
10 - 11 Awst | Swansea |
13 - 14 Awst | Newport |
20 - 21 Awst | Bristol |
27 - 28 Awst | Swindon |
3 - 4 Medi | Slough |
10 - 11 Medi | Lambeth |
17 - 18 Medi | Lewisham |
Yn addas ar gyfer oedran 12+
Mynediad am ddim
Teithiau drwy amser a gofod
Mae StoryTrails yn archwiliad manwl a syfrdanol i’n gorffennol cyfunol. Drwy brofiadau realiti estynedig sy’n ail-greu archifau rhyfeddol y BBC a’r BFI, gallwch brofi hanes yn y lle y digwyddodd. Byddwch chi’n gweld strydoedd a sgwariau yn cael eu gwireddu gan straeon ddoe, lleisiau heddiw – a phosibiliadau yfory, efallai.
Mae StoryTrails yn brofiad ymgolli hudolus yn yr hanesion rhyfeddol a luniodd 15 o drefi a dinasoedd ledled y DU. Mae tîm StoryTrails yn datgelu’r straeon a wnaeth y lleoedd hyn a’u pobl yr hyn y maen nhw yn 2022 - a gan ddefnyddio’r dechnoleg realiti estynedig a rhithwir (recordiadau sain a recordiadau fideo) ddiweddaraf, maent yn eu hailadrodd ar eich cyfer yn 2022. Mae’r cyfan yn arwain at ffilm newydd sy’n cael ei chreu ar gyfer y BBC a’r BFI gan David Olusoga: archwilio ein gorffennol, ystyried ein presennol a chychwyn sgyrsiau newydd am ein dyfodol. Beth am ymuno â ni ar y llwybrau?







