Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.

About Us
Mawrth - Tachwedd 2022
Mae About Us yn sioe fyw ac yn osodiad amlgyfrwng rhyfeddol sy'n dathlu ein cysylltiadau â phopeth o'n cwmpas – dros 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes.
Gwyliwch ar-lein
Profiad awyr agored ysblennydd sy’n archwilio ein cysylltiadau di-ben-draw â’n planed, y cosmos ehangach a’n gilydd
Pryd a ble
Mae Amdanom Ni bellach wedi cwblhau ei daith DU fel rhan o UNBOXED. Diolch i gynulleidfaoedd a ymunodd â ni yn Abaty Paisley, Sgwâr y Neuadd yn Derry-Londonderry, Y Maes yng Nghaernarfon, Neuadd y Dref Luton, Sgwâr y Frenhines Victoria yn Hull a Thŵr Llundain.
Os fethoch chi'r sioe fyw gallwch chi ei mwynhau ar-lein o hyd trwy fideos sydd wedi dal y perfformiadau anhygoel hyn.
Mae popeth wedi’i gysylltu
Ydych chi erioed wedi rhyfeddu wrth edrych i fyny ar awyr y nos ac wedi tybio sut yr ydych chi wedi’ch cysylltu â’r sêr y tu hwnt? About Us yw’r sioe i chi: dathliad awyr agored o’n cysylltiadau â phopeth o’n cwmpas – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae About Us yn defnyddio mapio taflunio, animeiddio, cerddoriaeth, barddoniaeth a pherfformiadau byw arloesol i ddathlu ein lle yn y bydysawd a’r cysylltiadau rhyngom ni i gyd. Wedi’i chreu gan 59 Productions, Stemettes a The Poetry Society gyda gwyddonwyr a beirdd ledled y DU, mae’r sioe epig hon yn cyfuno perfformiadau byw a gosodiadau amlgyfrwng - a bydd yn cael ei thaflunio yn y nos, am ddim, ar dir nodau canol trefi ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ymunwch â ni i archwilio hud, lledrith a rhyfeddod y beunyddiol wrth i ni ddathlu popeth About Us.











