Cymryd rhan
Dewch yn rhan o UNBOXED
Mae UNBOXED yn ddathliad ledled y DU o'n holl greadigrwydd ac mae digon o ffyrdd i chi gymryd rhan, p'un a yw hynny'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth, ymgymryd ag interniaeth, gwirfoddoli neu wneud cais am fwrsariaeth.
Byddwn yn ychwanegu cyfleoedd i'r dudalen hon yn barhaus felly peidiwch â cholli cyfle. Ewch i’r dudalen yn rheolaidd a'n dilyn ar Facebook, LinkedIn, Instagram a Twitter
Cyfleoedd cyfredol
Green Space Dark Skies
Lwmenyddion yn creu gwaith celf awyr agored
Pwy all gymryd rhan: Unrhyw un sy'n byw yn y DU mewn lleoliadau ledled y DU.
Mae Green Space Dark Skies yn chwilio am 20,000 o bobl i fod yn Lwmenyddion, pob un yn cario golau i mewn i'r dirwedd. Gyda'n gilydd, byddwn yn helpu i oleuo mannau gwyrdd hardd ledled y DU. Dychmygwch filoedd o oleuadau yn gwneud patrymau ar fynyddoedd, llynnoedd a rhostir ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cynhelir 20 o ddigwyddiadau rhwng mis Ebrill a mis Medi 2022 a bydd yn cael ei ddarlledu i filiynau o bobl. Byddwn yn mynd â'r genedl ar daith drwy ein Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Ond, er mwyn gwarchod y tirweddau rhyfeddol hyn, bydd yr union leoliadau'n gyfrinach – dim ond y rhai sydd wedi cofrestru fydd yno ar y diwrnod.
Mae ceisiadau'n cael eu hasesu’n barhaus. Gwnewch gais yma