1
Read

Heriau

Cymerwch ran mewn heriau a chystadlaethau creadigol i ysgolion a theuluoedd ledled y DU

Date and time

Medi - Tachwedd

Publication date

Dreamachine

Cwestiynau Mawr Bywyd

Mae Cwestiynau Mawr Bywyd yn daith ryngweithiol i botensial anhygoel yr ymennydd dynol ac yn arolwg i blant ledled y wlad i bwerau’r synhwyrau.

Mae’r gweithgaredd ystafell ddosbarth ar-lein hwn, a gynhelir gan Martin Dougan (CBBC Newsround), yn annog disgyblion 7 - 11 oed i feddwl am bum cwestiwn mawr:

  • Ydw i'n gallu credu popeth rwy'n ei weld?
  • Sut ydw i'n gwybod bod amser yn mynd heibio?
  • Ydy lliwiau dim ond yn fy meddwl i?
  • Ydy popeth rwy'n ei glywed yn real?
  • Ydy pobl yr un fath ledled y byd?

Mae pob un o’r cwestiynau hyn wedi’u gwreiddio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sef sail gwaith UNICEF. Mae’r gweithgareddau ystafell ddosbarth ar-lein sy'n gysylltiedig â phob cwestiwn yn annog disgyblion i ystyried sut rydym yn cael profiad o'r byd a pham nad yw’r synhwyrau mor syml ag y maent yn ymddangos.

Atebwch y Cwestiynau Mawr Bywyd

Our Place In Space

Dewch yn aelod o griw llong ofod y Ddaear

Nod yr her ddifyr hon yw ysbrydoli disgyblion i feddwl am sut y gallai pob un ohonom ofalu am ein planed yn well.

Mae Nicole Stott, un o ddim ond deg o fenywod erioed i fynd ar daith i’r gofod, yn ofodwr, yn artist ac yn awdur Back to Earth: What Life in Space Taught Me About Our Home Planet – and Our Mission to Protect It. Yn ystod y ffilm 12 munud hon ar gyfer Our Place in Space, mae Nicole yn dweud wrth yr artist Oliver Jeffers fod angen i ni ofalu am ein planed yn well a dod yn aelodau o griw, nid teithwyr, ar Long Ofod y Ddaear.

Yna, mae Nicole yn mynd ati i osod her greadigol i ni: i greu cerdyn post sy'n cynrychioli ein cenhadaeth i amddiffyn ein planed. Mae’r her yn cynnwys templed PDF y gellir ei lawrlwytho y gall disgyblion ei ddefnyddio i wneud eu cerdyn post – y gallwch wedyn ei lanlwytho i lwyfan pwrpasol, gyda’r posibilrwydd o ennill gwobr.

Hwn yw'r cyntaf mewn cyfres fisol o heriau creadigol Our Place in Space, sydd wedi’u cynllunio i’n hysbrydoli i feddwl mewn ffyrdd newydd am y gofod a’n lle ynddo.

Gwylio'r fideo  Lawrlwytho’r cerdyn post PDF

Ewch ati i rannu eich lle ar y Ddaear gyda'r gofodwr Chris Hadfield

Mae Chris Hadfield yn gyn ofodwr NASA, yn beiriannydd, yn gerddor ac yn beilot.  Mae wedi hedfan dwy daith Wennol Ofod ac wedi gwasanaethu fel pennaeth yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Mae Chris wedi ysgrifennu am ei amser yn y gofod, gan ymchwilio i syniad Frank White o'r 'Effaith Trosolwg', lle mae ymwybyddiaeth gofodwyr yn newid ar ôl edrych ar y Ddaear o'r gofod.

Mae ein planed yn enfawr. Os gallech chi edrych yn ôl ar eich lle ar y Ddaear o'r gofod, sut ydych chi'n meddwl y byddech chi'n teimlo? Ar gyfer y gystadleuaeth hon, bydd angen i chi greu fideo difyr a diddorol yn ystyried eich rôl ar ein planed a'r lleoedd rydym yn byw ynddynt.

Eich cenhadaeth yw creu ffilm fer a fydd yn:

  • Dangos i ni pwy ydych chi
  • Rhannu eich lle, neu'r lle rydych chi'n byw ynddo
  • Sôn wrthym am beth yr hoffech ei weld yn digwydd yn eich rhan chi o'r byd

Y cyfan sydd ei angen arnoch i gymryd rhan yw camera a'ch creadigrwydd eich hun.

Ymunwch â'r genhadaeth  Ewch i raglen ddysgu UNBOXED