1

SEE MONSTER Yn Cyrraedd

Platfform Môr y Gogledd wedi’i ddatgomisiynu ar fin cyrraedd Westonsuper-Mare cyn cael ei drawsnewid yn osodiad celf gyhoeddus mawr

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg 'SEE MONSTER Arrival' (PDF)

Bydd SEE MONSTER, platfform alltraeth Môr y Gogledd sydd wedi’i ddatgomisiynu a fydd yn dod yn un o osodiadau celf gyhoeddus mwyaf y DU, yn cyrraedd Weston-super-Mare dros y môr ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf. Mae trawsnewidiad y platfform y gyntaf o’i fath yn y byd, a’i nod yw ysbrydoli sgyrsiau byd-eang ynghylch defnyddio strwythurau diwydiannol mawr at ddibenion gwahanol ac atebion wedi’u harwain gan ddylunio i ddyfodol cynaliadwy.

Bydd y platfform 450 tunnell yn cael ei gludo ar gwch camlas gwaelod fflat mor fawr â chae pêldroed i’w gartref newydd yn y Tropicana, tirnod eiconig ar lan y môr, a’i godi gan graen dros fur y môr i’w roi ar goesau wedi’u hadeiladu ymlaen llaw. Bydd yr adeiladwaith cyfan yn 35m o uchder – 15m yn dalach nag Angel y Gogledd a dim ond 11m yn llai na Cholofn Nelson.

Bydd ymwelwyr â Weston-super-Mare a’i thrigolion yn dystion i drawsnewidiad SEE MONSTER, a gafodd ei gomisiynu fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, wrth i’r gwaith adeiladu ddigwydd yn ystod yr wythnosau nesaf. O ddiwedd yr haf, bydd yn bosibl gweld SEE MONSTER o lan y môr, y traeth ac ar fwrdd ei lefelau niferus.