1
Go

TAITH UNBOXED

Taith UNBOXED yn dechrau yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Prydain yng Nghaerlŷr

Date and time

17 Medi - 19 Hydref

Publication date

Mae UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn teithio i fwy o drefi a dinasoedd y mis hwn mewn taith fydd yn cynnig cyfle i bobl o bob oed – gan gynnwys plant ysgol, addysgwyr a theuluoedd – gael blas ar gynnwys y rhaglen.

A group of children at the UNBOXED Roadshow

Gallwch fynd i ddigwyddiadau taith UNBOXED am ddim a’r cyntaf fydd dydd Sadwrn 17 Medi yng nghanolfan siopa Highcross yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain eleni.

Bydd y digwyddiad yn addas ar gyfer teuluoedd a bydd pobl yn gallu defnyddio technoleg sgrin werdd i saethu drwy gysawd yr haul gyda phrosiect UNBOXED, Our Place in Space, sydd wedi gweld miloedd o bobl yn cerdded o’r Haul i Pluto, wedi’i ail-greu fel llwybr cerfluniau bron i 10km o hyd yn Belfast, Caergrawnt a Derry-Londonderry.

a tv monitor set up in front of a green screen

Bydd cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau rhyngweithiol hwyl yn cynnwys lliw, cerddoriaeth, rhithganfyddiad a mwy, yn rhan o brosiect unigryw a ddatblygwyd yn rhan o Dreamachine, y gwaith celf yr ydych yn ei ‘weld’ â’ch llygaid ar gau, sydd wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yn Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain. Trwy gymryd rhan, byddwch yn dysgu am eich pwerau canfyddiad eich hun ac yn helpu i fapio amrywiaeth cyfareddol y meddwl dynol.

Bydd hefyd cwis, wedi ei ysbrydoli gan About Us, y gosodwaith golau a sain anhygoel yn cyflwyno ein hanes o’r Glec Fawr hyd heddiw, y gwelodd miloedd o bobl yng Nghaernarfon, Derry-Londonderry, Hull, Luton a Paisley yn gynharach eleni.

Yn ogystal â hyn, bydd apiau am ddim i’w lawrlwytho- ar gyfer PoliNations, sydd bellach yn denu torfeydd mawr yn Birmingham, Our Place in Space a’r prosiect adrodd straeon ymgolli StoryTrails – yn galluogi pobl i brofi prosiectau UNBOXED ar eu dyfeisiau symudol.

Mae taith UNBOXED hefyd yn mynd i lan y môr yn Weston-super-Mare (19-25 Medi) lle mae SEE MONSTER ar hyn o bryd yn trawsnewid platfform alltraeth o Fôr y Gogledd sydd wedi ei ddadgomisiynu yn waith celf cyhoeddus enfawr; Cynhadledd Genedlaethol ASDC yn Glasgow (28-29 Medi); New Scientist Live yn Llundain (7-9 Hydref); IF, Gŵyl Wyddoniaeth a Syniadau Rhydychen (15-16 Hydref); a chynhadledd BEYOND yng Nghaerdydd (19 Hydref).

Dywedodd Martin Green, Prif Swyddog Gweithredol UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU: “Roedd taith UNBOXED yn llwyddiant enfawr yn Ffair y Big Bang yn gynharach eleni, lle cafodd bron i 30,000 o blant ysgol y cyfle i brofi’r wyddoniaeth a’r dechnoleg y tu ôl i brosiectau UNBOXED. Mae’n addas i bobl o bob oed, p’un ag ydych yn yr ysgol, yn addysgwr, yn dod a’r teulu neu â diddordeb mewn syniadau eofn archwilio pwy ydym ni a ble yr ydym yn mynd. Ac wrth gwrs mae’n rhad ac am ddim.”

I gael rhagor o wybodaeth am raglen UNBOXED, sy’n rhedeg tan fis Tachwedd, ewch i’r wefan.

UNBOXED ROADSHOW Date Location

Gŵyl Wyddoniaeth Prydain

Sadwrn 17 Medi Canolfan Siopa Highcross, Caerlŷr
Cynhadledd ASDC Discovery Mercher 28 - Iau 29 Medi Canolfan Wyddoniaeth Glasgow
New Scientist Live     Gwener 7 - Sul 9 Hydref Canolfan ExCel, Llundain
Gwyl IF Sadwrn 15 Hydref Parc Busnes Rhydychen, Rhydychen

Gwyl IF

Sul 16 Hydref Canolfan Siopa Templars Square, Rhydychen
Cynhadledd BEYOND Mercher 19 Hydref Cardiff