1

Ymweliad Gweinidogol â Dandelion

Ymweliad Gweinidog Llywodraeth yr Alban Patrick Harvie MSP â Gardd Arnofio Unigryw Dandelion ger Cerfluniau Eiconig y Kelpies yn Falkirk

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Ymweliad Gweinidogol â Dandelion yn Falkirk" (PDF)

  • Ymweliad Gweinidog yr Alban dros Adeiladau Di-garbon, Teithio Llesol a Hawliau Tenantiaid â Gardd Arnofio fioamrywiol, a grëwyd yn gynaliadwy
  • Mae'r Ardd Arnofio bellach wedi'i hangori wrth y Kelpies tan fis Medi, yn dilyn taith o amgylch rhwydwaith Camlesi yr Alban
  • Ymwelodd Mr Harvie hefyd â digwyddiad Free For All cyfagos gan Dandelion ym Mharc Helix Falkirk, lle rhoddwyd miloedd o blanhigion am ddim i aelodau'r cyhoedd
  • Mae'r Ardd Arnofio a Free For All yn rhan o'r rhaglen Dandelion, lle mae pobl yn cael eu hannog i 'Hau, Tyfu a Rhannu'

Mae Patrick Harvie MSP, Gweinidog yr Alban dros Adeiladau Di-garbon, Teithio Llesol a Hawliau Tenantiaid, wedi ymweld â 'Gardd Arnofio' unigryw, sydd wedi'i hangori ger cerfluniau eiconig y Kelpies yn Falkirk.

Mae'r ardd yn rhan o Dandelion, rhaglen greadigol bwysig sy'n hyrwyddo 'tyfu eich hun' a rhannu bwyd, syniadau, cerddoriaeth, gwybodaeth a chymuned. Wedi'i gomisiynu gan EventScotland ai ariannu gan Lywodraeth yr Alban fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, mae'r prosiect yn ail-ddychmygu ein perthynas â bwyd a'r blaned a'r ffordd yr ydym yn ei ddathlu, drwy 'hau, tyfu a rhannu' gyda'n gilydd.

Mae'r Ardd Arnofio yn un o 13 o 'Erddi Annisgwyl' a grëwyd gan Dandelion ledled y wlad mewn mannau anarferol ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â Scottish Canals i wireddu gweledigaeth Dandelion ar ddyfrffyrdd yr Alban. Cyrhaeddodd yr Ardd Arnofio Falkirk y penwythnos hwn ar ôl cwblhau ei thaith o amgylch rhwydwaith camlesi'r Alban, gan deithio o Glasgow i Gaeredin drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Yn ystod ei ymweliad, cyfarfu Mr Harvie ag aelodau o dîm Dandelion a theithio'r Ardd Arnofio, a grëwyd o gychod camlas a addaswyd yn arbennig yn cynnal planhigion a dyfwyd gan ddefnyddio dulliau garddwriaethol traddodiadol a thechnegau 'tyfu carlam', gan ddefnyddio technolegau newydd i feithrin planhigion y tu mewn i ffermydd fertigol bach. Mae'r ardd yn cynnwys dau gwch camlas – y cyntaf wedi'i droi'n 'rhandir arnofio', gyda thwnnel polythen, sied, gwelyau uchel a thri o 'Giwbiau Golau Parhaus' unigryw Dandelion, sef ciwbiau tyfu carlam 1x1m, tra bod yr ail yn 'ecosystem arnofio’ sy'n tynnu maeth o'r gamlas ac yn glanhau'r dŵr ac yn bwydo'r planhigion yn y broses.

Ymwelodd Mr Harvie hefyd â digwyddiad Free For All Dandelion gerllaw ym Mharc Helix. Mae Dandelion wedi bod yn rhoi miloedd o blanhigion am ddim yn nigwyddiadau Free for All mewn trefi a dinasoedd ledled yr Alban, gan ysbrydoli pobl ledled y wlad i 'Hau, Tyfu a Rhannu', ac mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i gasglu eu planhigion, dysgu sut orau i'w tyfu a mwynhau perfformiad o ganeuon cynaeafu o bob cwr o'r byd.