Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Polisi Preifatrwydd
UNBOXED: CREADIGRWYDD YN Y DU
Pwy ydym ni
Mae Festival 2022 Limited wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (rhif cwmni 12581221) yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig One Brindley Place, Brindley Place, Birmingham, Lloegr, B1 2JB ("Festival 2022 Ltd"/"ein"/"ni").
Mae Festival 2022 Limited yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Bwyllgor Trefnu Birmingham ar gyfer 2022 Commonwealth Games Ltd, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (rhif cwmni 11120160) yng nghyfeiriad swyddfa One Brindley Place, Brindley Place, Birmingham, Lloegr, B1 2JB (yr "OC").
Mae Festival 2022 Limited a'r pwyllgor trefnu gyda'i gilydd yn ffurfio grŵp (y "Grŵp Cwmni"/"Partïon") y mae'r pwyllgor trefnu yn unig aelod o Festival 2022 Limited, ac mae'r Partïon yn cydweithio er mwyn curadu, rheoli a hyrwyddo gŵyl genedlaethol o greadigrwydd ac arloesedd yn 2022 (""UNBOXED").
Cyflwynir UNBOXED mewn partneriaeth ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, dan ein harweiniad ni, gan weithio gyda Visit Scotland a Cymru Greadigol ein ("Cyrff Cyflawni Strategol") ac a ariennir gan Lywodraeth y DU gyda Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ("Cyllidwyr").
Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd UNBOXED: Creativity in the UK neu y data sydd gennym ni amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ysgrifennwch atom yn:
Data Protection Officer, Festival 2022 Ltd
One Brindley Place, Brindley Place, Birmingham, B1 2JB.
Anfonwch e-bost atom i: dp@unboxed2022.uk
Cewch hefyd ofyn am gopi o'r polisi preifatrwydd hwn mewn fformat arall.
Am y polisi hwn
Mae Festival 2022 Ltd yn cymryd ei gyfrifoldeb i ofalu am eich gwybodaeth bersonol o ddifrif. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut, fel y sefydliad arweiniol ar gyfer UNBOXED, yr ydym yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth i ni drwy http://www.unboxed2022.uk ("Gwefan UNBOXED"), yn gwneud cais i fod yn rhan o UNBOXED, neu'n gweithio gyda ni i ddarparu UNBOXED. Gall hyn fod drwy unrhyw ddull y byddwch yn cymryd rhan ynddo. Rydym hefyd yn casglu rhywfaint o ddata personol gan wefannau trydydd parti sydd ar gael i’r cyhoedd, fel Cofrestr Cwmnïau Tŷ'r Cwmnïau a Swyddfa Eiddo Deallusol y DU ('IPO').
Mae gennym hysbysiad ar wahân am unrhyw wybodaeth a gasglwn drwy gwcis, logiau gwe, Google Analytics a meddalwedd diogelwch neu berfformiad. I gael rhagor o wybodaeth am y rhain, darllenwch ein hysbysiad cwcis.
Dolenni/gwefannau trydydd parti
Mae Gwefan UNBOXED yn cynnwys dolenni i wefannau a weithredir gan drydydd partïon (gan gynnwys gwefannau cyfryngau cymdeithasol). Nodwch fod ein polisi preifatrwydd yn berthnasol i'r wybodaeth bersonol a gasglwn drwy Wefan UNBOXED a'n gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn unig ac ni allwn fod yn gyfrifol am wybodaeth bersonol y gall trydydd partïon ei chasglu, ei storio a'i defnyddio drwy eu gwefannau. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd pob gwefan rydych chi'n ymweld â hi yn ofalus.
Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
Byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol a gyflwynir i ni gennych chi (neu drydydd parti sy'n gweithredu ar eich rhan) drwy Wefan UNBOXED, ein hoffer trydydd parti neu drwy'r post, pan fyddwch yn:
- Cofrestrwch eich diddordeb yn UNBOXED
- Gwneud cais, cofrestru neu’n cysylltu â ni i gael gwybodaeth am UNBOXED
- Cyflwyno cwyn i ni neu roi adborth i ni
- Cofrestru i'n rhestr gyswllt
- Cysylltu â ni drwy e-bost at unrhyw ddiben
- Defnyddio neu weld Gwefan UNBOXED drwy gwcis eich porwr; neu
- Pan fyddwn yn derbyn eich data personol (e.e. enw, cyfeiriad e-bost gwaith) gan eich cyflogwr sy'n sefydliad yr ydym yn gweithio gydag ef i ddarparu UNBOXED .
Yn dibynnu ar natur eich cyswllt, rydym yn casglu:
- Eich enw, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad e-bost a / neu ddata cyswllt arall
- Eich cyfeiriad busnes
- Gwlad breswyl a chod post (os y DU)
- Eich data delwedd os byddwn yn cofnodi unrhyw gyfarfodydd gyda chi
- Eich cyfeiriad IP
- Gwybodaeth am eich sefydliad a'r sector diwydiant rydych chi'n gweithio ynddo.
- Unrhyw ddata personol a all fod mewn gwybodaeth cofrestru cwmnïau ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.
- Unrhyw ddata personol a all fod ar wefan IPO y DU (e.e. enwau ymgeiswyr ar gyfer/perchnogion marciau masnach neu batentau).
Sut mae prosesu eich gwybodaeth yn gyfreithlon?
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni benderfynu pa un o'r chwe sylfaen ddiffiniedig a ddefnyddiwn i brosesu gwahanol gategorïau o'ch gwybodaeth bersonol, ac i'ch hysbysu o'r sail ar gyfer pob categori. Mae'r seiliau allweddol rydym yn dibynnu arnynt wedi'u nodi isod:
- Pan fyddwch yn gofyn i ni roi gwybodaeth i chi am UNBOXED, amdanom ni neu pan fydd eich cyflogwr yn rhoi eich data personol i ni mewn cysylltiad â chydweithio i ddarparu UNBOXED, neu pan fyddwn yn casglu data o wefan trydydd parti sy'n hygyrch i'r cyhoedd, rydym yn prosesu eich gwybodaeth pan fo'n angenrheidiol ar gyfer buddiannau cyfreithlon a phan ystyriwn nad yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn diystyru ein buddiannau; neu at ddibenion darparu gwybodaeth i chi cyn i chi ymrwymo i gontract gyda ni.
- Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth yn ystod y cofrestriad ar gyfer UNBOXED, byddwn yn gwneud hynny i benderfynu ar eich perthynas ag UNBOXED, pan fo’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon a phan fyddwn o'r farn nad yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn diystyru ein buddiannau.
- Rydym hefyd yn dibynnu ar sail caniatâd penodol, drwy ddefnyddio 'blwch ticio' i anfon gwybodaeth farchnata atoch am UNBOXED ac i rannu eich data gyda Grŵp y Cwmni a Chyrff Cyflawni Strategol er mwyn iddynt allu anfon gwybodaeth farchnata atoch am y digwyddiadau cyhoeddus yn 2022 sy'n gysylltiedig ag UNBOXED .
- Pan fyddwn yn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth a phwnc data, y sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol yw bod angen cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol a osodir arnom fel y rheolydd data.
- Pan fyddwn yn ymateb i gwynion neu ymholiadau cyffredinol sydd gennych amdanom ni neu UNBOXED, rydym yn prosesu eich data personol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.
- Efallai y bydd achosion hefyd lle mae angen i ni brosesu eich data personol pan fo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu fuddiannau trydydd parti) ac nid yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn diystyru'r buddiannau hynny. Byddem yn dibynnu ar y sail hon pan fydd yn ofynnol i ni gyfathrebu â chi ymhellach mewn ymateb i unrhyw ymholiadau neu gyswllt yr ydych wedi'i wneud gyda ni, a phan nad yw cyfathrebu o'r fath yn dod o dan y seiliau cyfreithlon a ddisgrifir uchod.
Os ydych wedi cydsynio i dderbyn gwybodaeth farchnata gennym, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, gyda'r caniatâd penodol hwn, i ddarparu cyfathrebiadau e-bost penodol sy'n gysylltiedig ag UNBOXED neu ddigwyddiadau cyhoeddus yn 2022 sy'n gysylltiedig ag UNBOXED. Rydym yn parhau i brosesu eich gwybodaeth ar sail caniatâd nes i chi dynnu'ch caniatâd yn ôl, neu gellir tybio'n rhesymol nad yw eich caniatâd yn bodoli mwyach.
Sut ydym yn storio ac yn rhannu eich data?
Rydym yn defnyddio offeryn trydydd parti o'r enw Dotdigital fel llwyfan i gynnal y cais y byddwch chi, neu drydydd parti sy'n gweithredu ar eich rhan, yn mewnbynnu eich data arno. Mae rhagor o wybodaeth am Dotdigital ar gael ar eu gwefan yn: https://dotdigital.com/terms/privacy-policy/
Rydym yn defnyddio offeryn trydydd parti o'r enw Salesforce i storio data personol a gesglir yn ystod y broses gofrestru, cymhwyso a dethol; a rheoli anfon deunydd marchnata a chyfathrebu. Mae rhagor o wybodaeth am Salesforce ar gael ar eu gwefan yn: https://www.salesforce.com/company/privacy/
Mae ein hoffer trydydd parti ar gael drwy Wefan UNBOXED http://www.unboxed2022.uk. Rydym yn defnyddio sefydliad trydydd parti o'r enw Numiko i gynnal a chadw Gwefan UNBOXED a storio data personol a gesglir drwy Wefan UNBOXED. Mae rhagor o wybodaeth am Numiko ar gael ar eu gwefan yn: https://numiko.com/privacy-policy/
Os ydych wedi cysylltu â ni drwy'r post yn ein cyfeiriad yn Birmingham neu drwy e-bost, yna bydd ein staff yn defnyddio eich data personol er mwyn ymateb i'ch ymholiad.
Os ydych wedi cydsynio i dderbyn gwybodaeth farchnata gennym ni a'n Cyrff Cyflawni Strategol, byddwn ni a/neu ein Cyrff Cyflawni Strategol hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu cyfathrebiadau e-bost penodol sy'n gysylltiedig â darparu UNBOXED ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Ac eithrio fel y nodir yn y polisi preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd parti oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i wneud hynny. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon nac i unrhyw sefydliadau eraill.
Diogelu eitch data
Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch cynhwysfawr a phriodol er mwyn diogelu eich data personol rhag dinistr damweiniol neu anghyfreithlon, colled neu newid damweiniol, datgeliad neu fynediad heb awdurdod, ac unrhyw fathau anghyfreithlon eraill o brosesu. Ein nod yw sicrhau bod lefel y diogelwch a'r mesurau a fabwysiadwyd i ddiogelu eich data personol yn briodol ar gyfer y risgiau a gyflwynir gan natur a defnydd eich data personol. Mae ein mesurau diogelwch yn cynnwys diogelwch sefydliadol (cyfrineiriau a rheolaethau mynediad, hyfforddiant staff, polisïau diogelwch gwybodaeth a diogelu data), diogelwch corfforol (canolfannau data diogel, diogelwch adeiladu) a diogelwch TG (waliau tân, amgryptio).
Er y byddwn bob amser yn trin y wybodaeth a anfonwch atom gyda'r hyder mwyaf llym, ni allwn warantu diogelwch y Rhyngrwyd. Ni ellir byth â gwarantu bod unrhyw drosglwyddiad dros y Rhyngrwyd yn ddiogel ac mae'n bosibl, er yn annhebygol iawn, y gallai rhywun heblaw ni ein hunain gael gafael ar wybodaeth a'i darllen a'i hanfon atom fel hyn. Os ydych chi'n teimlo'n bryderus am hyn, defnyddiwch fath arall o gyswllt, e.e. post.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gybodaeth?
Os byddwch yn gwneud cais syml am wybodaeth amdanom ni neu UNBOXED, byddwn yn cadw eich data personol am ddim mwy na chwe mis. Bydd hyn yn ein galluogi i ateb eich ymholiad ac i ddelio ag unrhyw ymholiadau neu gwynion pellach sydd gennych mewn perthynas â'ch ymholiad cychwynnol. Ar ôl chwe mis bydd eich data personol yn cael ei ddileu'n ddiogel.
Ym mhob achos arall, bydd Festival 2022 Ltd yn cadw eich data personol tan ddiwedd Mawrth 2023, neu hyd nes y byddwch yn tynnu'ch caniatâd yn ôl yn benodol i ni brosesu eich data personol. Yna byddwn yn sicrhau bod eich data personol yn cael ei ddileu'n ddiogel.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Festival 2022 Ltd sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob person y byddwn yn prosesu ei ddata hawl i'r canlynol:
- Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych yr hawl i ofyn am gopïau o'ch data personol gennym. Efallai y byddwn yn codi ffi fach arnoch am y gwasanaeth hwn.
- Yr hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
- Yr hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, o dan rai amodau.
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol, o dan rai amodau.
- Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol, o dan rai amodau.
- Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, o dan rai amodau.
- Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl - Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni (gweler yr adran 'Sut i Gysylltu â Ni' yn y polisi preifatrwydd hwn isod). Bydd dolen hefyd ym mhob e-bost marchnata a gewch lle gallwch ddewis 'dad-danysgrifio' er mwyn tynnu eich caniatâd yn ôl neu er mwyn newid eich caniatâd.
Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym fis i ymateb i chi. O bryd i'w gilydd, gall gymryd mwy o amser i ni os yw eich cais yn arbennig o gymhleth neu os ydych wedi gwneud nifer o geisiadau. Mewn achos o'r fath byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein e-bost: dp@unboxed2022.uk
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Rydym yn adolygu'n rheolaidd a, phan fo angen, yn diweddaru ein gwybodaeth am breifatrwydd. Os ydym yn bwriadu defnyddio gwybodaeth bersonol at ddiben newydd, byddwn yn diweddaru ein gwybodaeth am breifatrwydd ac yn cyfleu'r newidiadau i chi. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn weithredol ac fe'i diweddarwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2022.