Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
100 Diwrnod o UNBOXED
Nodyn gan y Prif Swyddog Creadigol yn UNBOXED, Martin Green MBE
- Publication date
100 Diwrnod Ers I Ni Agor: Mae Eich Cefnogaeth Wedi Dod Ag UNBOXED Yn Fyw
Diolch am ymuno â ni i ddathlu creadigrwydd a chwilfrydedd pobl ledled y DU.
Mae ein cynulleidfaoedd yn gwneud hon yn flwyddyn ryfeddol.
100 diwrnod ers i ni agor, rydym wedi mwynhau’n fawr cwrdd â phobl ledled y DU a gweld eu hymatebion i'n chwe chomisiwn cyntaf. O'r dechrau, roeddem eisiau i UNBOXED ddod â syniadau a thechnoleg arloesol i gynulleidfaoedd ymhell y tu allan i Lundain yn bennaf, gan ein bod yn credu y dylech allu dod ar draws gwaith o'r radd flaenaf ni waeth ble yr ydych yn byw – ac roeddem wrth ein bodd â’r ymateb cyhoeddus.
Dro ar ôl tro rydym yn clywed gan gymunedau, sy’n byw yn y lleoliadau yr ydym yn ymweld â nhw, yn dweud wrthym pa mor falch ydynt o weld y math hwn o waith yn cael ei lwyfannu "yn fy nhref i". Rydym yn gweld yn uniongyrchol sut mae hyn yn gwneud i bobl sylweddoli eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd.
Gwelodd ein comisiwn cyntaf, Amdanom ni, dros 120,000 o bobl yn ymuno â ni mewn pum tref a dinas ar draws y pedair gwlad. Cawsom ein syfrdanu pan wnaethom sylweddoli bod bron i ddwywaith cymaint o bobl wedi gweld Amdanom ni yng Nghaernarfon nag sy'n byw yno!
Gwelodd Ein Lle yn y Gofod fwy na 60,000 o bobl yn teithio drwy Gysawd yr haul yn Derry-Londonderry. Mae newydd agor a chael ymateb anhygoel yn Belfast, ac ar ôl hynny bydd yn symud i Gaergrawnt, ac yna byddwn yn lansio ei ap sy'n caniatáu i bobl gymryd rhan yn y profiad gwych hwn gan Oliver Jeffers unrhyw le yn y byd.
Yn y cyfamser, gwerthodd Dreamachine y tocynnau i gyd pan agorodd (a chael adolygiadau pum seren) yng Nghaerdydd a Llundain, gyda Tour de Moon yn arddangos dychymyg radical cannoedd o bobl ifanc a chreadigol sy'n dod i’r amlwg (llawer yn dod o gymunedau ar y cyrion) ymhob man lle bu’n galw heibio o amgylch Lloegr. Mae Dandelion eisoes wedi dechrau tyfu ar draws yr Alban ac yn ddiweddar cafodd ei ŵyl fawr gyntaf am ddim yn Glasgow (lle bu dros 40,000 o bobl yn bresennol), tra bod miloedd eisoes wedi dathlu harddwch ein Mannau Gwyrdd o dan Awyr Dywyll gan ddefnyddio technoleg goleuo a ddyfeisiwyd gan beirianwyr ifanc yn Siemens.
Ac mae llawer eto i ddod.
Mae StoryTrails yn prysur agosáu, gan ddod â hanes a straeon pobl yn fyw drwy dechnolegau newydd, mewn llyfrgelloedd a threfi ledled y DU, tra bod SEE MONSTER yn ysu i dorri’n rhydd a mynd ar ei daith i Weston-Super-Mare. Mae GALWAD yn creu bydoedd a syniadau newydd i ddychmygu Cymru yn 2052, ac mae PoliNations – gardd goedwig yn holl liwiau’r enfys yng nghanol y ddinas - yn paratoi i feddiannu Birmingham ym mis Medi fel comisiwn ar y cyd â Gŵyl Birmingham 2022.
O'r cychwyn cyntaf, roeddem eisiau i UNBOXED fod yn fuddsoddiad yn ein dyfodol creadigol. Rydym yn ymgysylltu â miloedd o bobl ifanc i ysbrydoli gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol, gan helpu i ysgogi sgwrs ar ba mor hanfodol fydd sgiliau creadigol ar draws gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg (STEAM) wrth i'r byd gwaith esblygu yn y DU ac yn fyd-eang.
Hyd yma, mae dros 75,000 o blant ysgol a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ystafell ddosbarth ac mae dros 50 o bartneriaethau creadigol wedi'u paratoi ar draws y sectorau STEAM ac addysg y celfyddydau, tra bod 54 o wledydd yn cymryd rhan weithredol yn UNBOXED drwy ymchwiliad ymchwil yr RSA a rhwydwaith byd-eang y Cyngor Prydeinig.
Mae UNBOXED hefyd yn cefnogi swyddi ac uchelgais greadigol bron i 2,000 o bobl, gan adeiladu ar y 500 o unigolion a sefydliadau a gefnogwyd drwy gam ymchwil a datblygu cychwynnol y rhaglen, a gyflwynwyd drwy gydol y pandemig, gan fuddsoddi mewn dros 100 o weithwyr llawrydd. Byddwn yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn adferiad ein diwydiannau creadigol, gan hyrwyddo creadigrwydd drwy STEAM a chefnogi talent newydd i weithio yn y diwydiannau y maent yn eu caru.
Fe'm hysbrydolwyd gan y cynulleidfaoedd, y cymunedau a'r cyfranogwyr sydd wedi bod mor frwdfrydig dros UNBOXED hyd yn hyn, a gwn yn y misoedd i ddod fod gennym gymaint mwy i’w ddarganfod gyda'n gilydd.