Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.

Dreamachine
Gwanwyn - gaeaf 2022
Mae Dreamachine yn daith drochi i mewn i olau, sain, lliw a dychymyg. Caewch eich llygaid ac ystyried potensial diderfyn y meddwl dynol.
Caewch eich llygaid ac archwiliwch botensial di-ben-draw’r meddwl dynol
Amgylchedd ymgolli o olau a sain – yn unigryw i chi ac wedi’i greu gennych chi
Pryd a ble
|
Cymerwch ran yn un o astudiaethau gwyddonol mwyaf y byd ar ganfyddiad
Nawr bod y profiadau byw yn Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain wedi cau, fe'ch gwahoddir chi i gymryd rhan yng Nghyfrifiad Canfyddiad Dreamachine, un o'r astudiaethau gwyddonol mwyaf ar amrywiaeth canfyddiad a gynhaliwyd erioed, wedi'u dwyn ynghyd gan dîm o wyddonwyr ac athronwyr mwyaf blaenllaw'r byd. Bydd eich cyfranogiad yn helpu i daflu goleuni unigryw ar y gwahanol ffyrdd yr ydym ni bob un yn gweld y byd, sut mae hyn yn llywio ein bywydau, a phwy ydym ni.
O'ch cyfrifiadur desg neu'ch gliniadur, cwblhewch gyfres o dasgau rhyngweithiol hwyliog ar liw, cerddoriaeth, rhithganfyddiad a mwy. Drwy gymryd rhan, byddwch yn dysgu am eich pwerau canfyddiad eich hun ac yn helpu i fapio'r amrywiaeth hynod ddiddorol.
Caewch eich llygaid…
Mae Dreamachine wedi'i ysbrydoli gan ddyfais ryfeddol o 1959 a grëwyd gan yr artist-ddyfeisiwr Brion Gysin a ddefnyddiodd olau’n crynu i greu dadrithiadau, patrymau a ffrwydradau llachar o liw ym meddwl y gwyliwr.
Nawr, 60 mlynedd yn ddiweddarach, mae Collective Act wedi tynnu ynghyd Assemble, enillwyr ar y cyd gwobr Turner, y cerddor Jon Hopkins a gafodd ei enwebu am Grammy a llu o wyddonwyr a thechnolegwyr arloesol i ail-ddychmygu cysyniad Gysin fel rhaglen newydd arloesol sy'n cynnwys profiad cyfunol caleidosgopig, rhaglen ysgolion ledled y DU ac un o'r astudiaethau gwyddonol mwyaf o'i math yn edrych ar sut yr ydym yn gweld y byd o'n cwmpas.
Cyflwynir Dreamachine yr 21ain ganrif am ddim yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain, a bydd yn eich tywys trwy amgylchedd trochi o olau a sain sydd mor gyfoethog a rhyfeddol ag unrhyw efelychiad digidol, a grëwyd gennych chi eto.
Daw'r byd hwn o'r tu mewn, gan roi cipolwg hudolus ar bŵer syfrdanol ein meddyliau ein hunain.








