1
A yellow logo for See Monster

See Monster

28 Awst - 20 Tachwedd

Mae SEE MONSTER yn weithred syfrdanol o greadigrwydd ar y cyd – platfform alltraeth o Fôr y Gogledd wedi'i adfywio fel gosodiad newydd mawr yng Ngwlad yr Haf.

Cyfle i gwrdd â’r Anghenfil: hen blatfform alltraeth Môr y Gogledd, wedi’i ail-lunio’n brofiad anhygoel i ymwelwyr yn Weston-super-Mare

Atgof byw o’n gorffennol diwydiannol – ac yn symbol anhygoel o’n taith tuag at ddyfodol cynaliadwy

Lle mae diwydiant yn cwrdd â chreadigrwydd

Rydym wedi cymryd hen blatfform alltraeth wedi'i ddatgomisiynu o Fôr y Gogledd, ei  gludo i'r DU, ei blannu ar arfordir Gwlad yr Haf a'i drawsnewid yn SEE MONSTER – gosodwaith celf cyhoeddus enfawr a phrofiad i ymwelwyr. Agorodd yr anghenfil anhygoel yn Weston-super-Mare ym mis Medi.

Mae SEE MONSTER yn ddathliad o sut y gallwn ni ddefnyddio ein gorffennol i lywio ein dyfodol. Gan greu ynni adnewyddadwy o dywydd Prydain, mae'r platfform hwn wedi’i ailddychmygu yn cynnwys arbrofion, perfformiadau, gerddi a hyd yn oed rhaeadr 10 metr o uchder – gan arddangos arloesedd lleol a dangos sut y gall creadigrwydd herio a newid y status quo.

Gwireddwyd SEE MONSTER ar safle lido eiconig Tropicana Weston gan stiwdio NEWSUBSTANCE o Leeds, gyda chefnogaeth gan Gyngor Tref Weston-super-Mare a Chyngor Gogledd Gwlad yr Haf. Trwy gydol yr hydref, bydd yn sefyll fel atgof byw o'n gorffennol a rennir – ac yn symbol o'n taith unedig tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Addas i bob oed

Mynediad am ddim

Pryd a ble

24 Medi - 20 Tachwedd, 9am – 9pm (mynediad olaf 8pm) The Tropicana, Weston-super-Mare

Fe wnes i ymweld â'r SEE MONSTER yn Weston-super-Mare heddiw a dyna beth gwych yw e’. Fe wnes i a fy nheulu fwynhau ein hymweliad yn fawr iawn ac roedd y staff yn wych.

— Tony Batham – ymwelydd