1
Go

CRONFA GRWPIAU IEUENCTID A CHYMUNEDOL – cylch 2

Rydym yn falch o gyhoeddi cylch 2 o Gronfa Ymweliadau Grwpiau Ieuenctid a Chymunedol UNBOXED.

Rydym yn gwahodd grwpiau ieuenctid a chymunedol yn y DU i wneud cais am gyllid o hyd at £1,500 i dalu costau ymweld â SEE MONSTER yn Weston-super-Mare neu Amdanom Ni yn Llundain. Gellir defnyddio cyllid i dalu costau eich ymweliad, fel costau staff, cludiant a chymorth gofynion mynediad.

 

Cymhwysedd

Mae unrhyw grŵp ieuenctid, cymunedol neu sefydliad nid-er-elw tebyg yn y DU yn gymwys i wneud cais am y cyfle, ac eithrio grwpiau sydd wedi cael cyllid eisoes i ymweld â chomisiwn UNBOXED. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:   

  • Grwpiau ieuenctid – gwasanaethau, clybiau a sefydliadau ieuenctid

  • Rhwydweithiau addysg gartref

  • Grwpiau cymunedol, gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol anffurfiol
  • Sefydliadau ac elusennau nid-er-elw cofrestredig

 

Lleoliadau digwyddiadau

Lloegr    
SEE MONSTER   Weston-super-Mare Tan 20 Tachwedd 2022
Amdanom Ni Llundain 16 – 19 Tachwedd 2022 

 

I wneud cais: llenwch ffurflen gais y Gronfa Ymweliadau Grwpiau Ieuenctid a Chymunedol

  • Mae ceisiadau’n rhedeg ar sail dreigl nes bod yr holl arian wedi’i ddyrannu.

  •  Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod a ydyn nhw wedi bod yn llwyddiannus o fewn 7 diwrnod i’r cais gyrraedd UNBOXED. 

  • Bydd grwpiau llwyddiannus yn cael eu dewis ar sail yr atebion ar y ffurflen gais. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau sy’n wynebu rhwystrau i fynychu digwyddiadau diwylliannol.
  • Mae digwyddiadau UNBOXED ar gael i ymweld â nhw tan 20 Tachwedd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 14 Tachwedd 2022.  

 

Derbyn taliad

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd grwpiau’n cael ad-daliad am dreuliau ar ôl eu hymweliad. Os oes angen taliad ymlaen llaw ar eich grŵp i gymryd rhan, byddwn yn ceisio sicrhau hyn, cysylltwch â: learn@unboxed2022.uk.  

Mae’n ofynnol i grwpiau ddarparu derbynebau dilys o’r treuliau maen nhw’n eu hawlio.

Gellir hawlio treuliau o hyd at £1,500 y grŵp er mwyn talu’r treuliau sy’n gysylltiedig â’ch ymweliad. Gall hyn gynnwys costau staff, teithio* a chymorth arbenigol ar gyfer unrhyw anghenion hygyrchedd sydd gan eich grŵp.

(*Mae’n rhaid archebu trafnidiaeth gyhoeddus ar y gyfradd isaf bosibl ar drenau.)

Ar y ffurflen gais, bydd yn ofynnol i chi ddarparu dyfynbris ar gyfer y treuliau yr ydych yn dymuno’u hawlio. Rydym yn deall y gallai fod newidiadau bach i’r swm terfynol, ond ceisiwch fod mor gywir â phosibl drwy ymchwilio i’r prisiau cyn cyflwyno’ch cais.

Ni fyddwn yn gallu ad-dalu eitemau ychwanegol nad ydynt wedi’u nodi yn eich ffurflen gais.

 

Telerau ac amodau

Mae arweinwyr unrhyw grŵp ieuenctid, cymunedol neu sefydliad nid-er-elw yn y DU yn gymwys i wneud cais am y cyfle yn ddarostyngedig i’r telerau isod.

  1. Mae Cronfa Ymweliadau Grwpiau Ieuenctid a Chymunedol UNBOXED ar agor tan 14 Tachwedd 2022. Ni fydd ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
  1. Mae ar gael i unrhyw grŵp neu sefydliad ieuenctid neu gymunedol yn y DU. Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais fod yn 18 oed neu hŷn.
  1. Mae’n ofynnol i arweinwyr grŵp drefnu manylion yr ymweliad eu hunain. Mae hyn yn cynnwys trefnu’r holl deithio, llety a staff sydd eu hangen. Edrychwch ar wefan y digwyddiad yr ydych yn dymuno ymweld ag ef am wybodaeth cadw lle a chyrraedd. Mae angen cadw lle ar rai digwyddiadau ymlaen llaw.
  1. Mae’n rhaid i bob grŵp gynnwys o leiaf un person 18 oed neu hŷn ar yr ymweliad.
  1. I wneud cais, mae’n rhaid i gyfranogion lenwi ffurflen ar-lein. Bydd grwpiau llwyddiannus yn cael eu dewis ar sail yr atebion ar y ffurflen gais ac yn ôl disgresiwn llwyr UNBOXED.  
  1. Gellir hawlio treuliau o hyd at £1,500 y grŵp i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’ch ymweliad. Gall hyn gynnwys costau staff, teithio* a chymorth arbenigol ar gyfer unrhyw anghenion hygyrchedd eich grŵp. Ni fyddwn yn ad-dalu eitemau ychwanegol na nodir yn eich ffurflen gais. *Mae’n rhaid trefnu trafnidiaeth gyhoeddus ar y gyfradd isaf bosibl ar drenau.
  1. Bydd yn ofynnol i grwpiau gyflenwi derbynebau dilys er mwyn gallu cael ad-daliad ar eu treuliau. Pan fydd grwpiau wedi gofyn am daliad ymlaen llaw, bydd angen iddyn nhw gyflwyno derbynebau ar ôl eu hymweliad o hyd. Os na fydd y swm llawn wedi’i wario bydd yn rhaid dychwelyd unrhyw weddill i Unboxed.
  1. Nid yw grwpiau sydd wedi cael cyllid trwy Gronfa Ymweliadau Grwpiau Ieuenctid a Chymunedol UNBOXED eisoes yn gymwys i wneud cais.
  1. Arweinydd y grŵp sy’n gyfrifol am gael unrhyw ganiatâd am fynd ac unrhyw asesiadau risg iechyd a diogelwch, ac sy’n gyfrifol am lesiant aelodau’r grŵp yn llwyr.
  1. Nid oes unrhyw werth arian parod i ddyraniadau cyllid, ac nid oes modd eu trosglwyddo, ac ni chaiff y grŵp neu sefydliad llwyddiannus eu hamnewid.
  1. Trwy wneud cais, mae’r prif gyswllt yn caniatáu i UNBOXED ddefnyddio’i wybodaeth bersonol at ddibenion gweithredu’r Gronfa hon. Mae UNBOXED yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw a lleoliad y grwpiau buddugol ar gyfer cyfleoedd hyrwyddo a’r wasg.
  1. Bydd y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i gyfraith Lloegr ac mae’r partïon yn ymostwng i ddeddfwriaeth unigryw llysoedd Lloegr o ran unrhyw anghydfod sy’n deillio o’r telerau ac amodau neu mewn cysylltiad â nhw.
  1. Mae gwneud cais i Gronfa Ymweliadau Grwpiau Ieuenctid a Chymunedol UNBOXED yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn.  
  1. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r Gronfa i learn@unboxed2022.co.uk