1

About Us - Ffilm

Dewch ar daith gyda ni o amgylch y DU i brofi Comisiwn cyntaf UNBOXED

Publication date

Gwyliwch Ar-lein Nawr

Sioe olau a sŵn anhygoel a aeth i Paisley, Derry~Londonderry, Caernarfon, Luton a Hull yn archwilio ein cysylltiadau â phopeth o’n cwmpas: yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Os na welsoch chi’r sioe eich hun, gallwch fwynhau’r sioe gyfan o unrhyw le yn y byd drwy wylio’r ffilm fer hon:  

Mae About Us, a gomisiynwyd yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU yn ddigwyddiad teithiol awyr agored anhygoel am ddim yn cyfuno tafluniadau golau arloesol, animeiddiadau, cerddoriaeth a barddoniaeth i ddathlu ein cysylltiadau rhyfeddol â phopeth o’n cwmpas: yn y gorffennol, y presennol ac yn y dyfodol. Mae’r sioe yn cynnwys sgôr wreiddiol gan y cyfansoddwr Nitin Sawhney MBE wedi’i pherfformio gan  gorau lleol ym mhob lleoliad ac yn ymgorffori ceisiadau i gystadleuaeth farddoniaeth a chodio ledled y DU yn ogystal â gwaith a grëwyd gan blant ysgol lleol ym mhob lleoliad. Aeth y sioe i bum lleoliad (Paisley, Derry-Londonderry, Caernarfon, Luton a Hull) rhwng mis Mawrth a mis Mai 2022. Gan ddefnyddio deunydd a ffilmiwyd ym mhob un o’r pum lleoliad, mae’r ffilm hon yn cyflwyno’r profiad 25 munud llawn yn archwilio stori popeth sy’n ein cysylltu, o’r Glec Fawr hyd heddiw. Crëwyd y prosiect cydweithredol hwn gan 59 Productions, The Poetry Society a’r Stemettes.