Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Tour de Moon yng Ngŵyl Ffilm Fer Llundain
Tour de Moon yn cyrraedd gŵyl ffilm fer llundain yn BFI Southbank ar gyfer noson arbennig o ddangosiadau a dathliadau
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Tour de Moon yng Ngŵyl Ffilm Fer Llundain" (PDF)
Mae Tour de Moon yn cyflwyno Moon Cinema, rhaglen o ffilmiau byrion sy'n rhoi llwyfan i leisiau newydd arloesol ym maes gwneuthurwyr ffilmiau fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU. Ceir cysyniadau newydd arloesol, estheteg radical a themâu pwysig gwrthddiwylliant ieuenctid a bywyd nos.
TOCYNNAU AR GAEL YMA
Bydd Tour de Moon a PXSSY PALACE yn meddiannu Gŵyl Ffilm Fer Llundain (LSFF) yn BFI Southbank ar 27 Ionawr 2023 gyda rhaglen o 11 ffilm fer a gomisiynwyd yn wreiddiol fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU ar gyfer Tour de Moon. Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer noson arbennig o ddangosiadau, sy’n diweddu gyda digwyddiad a gynhelir gan PXSSY PALACE.
Eleni, buddsoddodd Tour de Moon mewn cannoedd o bobl ifanc creadigol sy'n dod i'r amlwg i ddatblygu prosiectau creadigol beiddgar, llawn dychymyg newydd, yn bennaf gan bobl ifanc 18 i 25 oed, ar draws y DU a thu hwnt. Roedd hyn yn cynnwys yr 11 gwneuthurwr ffilmiau a gomisiynwyd y mae eu gwaith yn cael ei ddangos yn LSFF.
Ym mis Ionawr 2023, bydd LSFF yn dathlu 20 mlynedd o raglennu unigryw, radical mewn sinemâu ledled Llundain, gyda gŵyl arall yn llawn dangosiadau a digwyddiadau. Eleni, gyda chefnogaeth Cronfa Gynulleidfa'r BFI yn rhoi arian gan y Loteri Genedlaethol, mae’r ŵyl yn partneru â chydweithfeydd lluosog a chyd-raglenwyr gwerthfawr ochr yn ochr â phartneriaid cyfryngol arwyddocaol, gyda'r nod o ddyrchafu a hyrwyddo talent gwneud ffilmiau newydd yn y DU ac yn fyd-eang, a thyrchu yn yr archif i ddod o hyd i straeon heb eu hadrodd.
Yn Hyb Diwydiant LSFF yn Rich Mix ddydd Gwener 27 Ionawr, bydd y gwneuthurwyr ffilmiau Tour de Moon a gomisiynwyd yn cymryd rhan mewn sesiynau cyngor un-i-un gydag arbenigwyr y diwydiant ffilm a chynrychiolwyr dosbarthwyr a llwyfannau gan gynnwys MUBI, Netflix a BFI Network.
Mae PXSSY PALACE, a fu'n cydweithio'n flaenorol â gŵyl Tour de Moon yn eu digwyddiad haf yng nghlwb ieuenctid hynaf y DU - Clwb Ieuenctid Pedro - yn gyfrifol am gynnal y parti ar ôl y digwyddiad. Llwyfan celfyddydol yw PXSSY PALACE sydd wedi'i wreiddio mewn bywyd nos bwriadol, sy'n dathlu pobl dduon, frodorol a phobl o liw sy'n fenywod, cwiar, rhyngryw, traws neu anneuaidd. Maent yn darparu lle i ddawnsio, cysylltu ac ymgysylltu, gan annog cydsyniad, rhyddid rhywiol, pleser, mynegiant ac archwilio ein hunain go iawn.
Dywedodd sylfaenydd gŵyl Tour de Moon, Dr Nelly Ben Hayoun-Stépanian: "Rydym wrth ein boddau ein bod yn cydweithio â Gŵyl Ffilm Fer Llundain sydd bellach yn dathlu 20 mlynedd o hyrwyddo gwneuthurwyr ffilmiau byrion a'u creadigrwydd di-ben-draw. Rydym hefyd yn teimlo’n gyffrous i fod yn cydweithio â'n cydbechaduriaid, y llwyfan celfyddydol PXSSY PALACE i gynnig cyfle i gynulleidfaoedd gymryd rhan yn un o'r partïon wedi’r digwyddiad mwyaf cosmig sydd gan y ddaear i'w gynnig! Yn Tour de Moon rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn sy'n cael ei gynnal yn hyb yr Ŵyl yn y BFI Southbank enwog yn dod â chyfleoedd gwirioneddol i wneuthurwyr ffilmiau ifanc ac ehangu plwraliaeth lleisiau creadigol ifanc sy'n arddangos eu doniau a'u dychymyg radical. Mae Tour de Moon yn teithio gyda'r nos, gan chwilio am ddechreuadau newydd i rymuso eraill i greu, cychwyn ac arloesi gyda meddwl ac arferion plwraliaethol newydd fel nad yw hanes yn ailadrodd ei hun ar y Ddaear a thu hwnt."