1

StoryTrails yn Sheffield DocFest

David Olusoga yn lansio StoryTrails yn Sheffield DocFest 2022 cyn ei daith ledled y DU

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg 'StoryTrails at DocFest' (PDF)

Ar 26 Mehefin yn Sheffield DocFest 2022, cymerodd y cyflwynydd teledu, hanesydd a Chynhyrchydd Gweithredol StoryTrails David Olusoga, ran mewn digwyddiad gyda phobl greadigol o Sheffield i nodi lansiad StoryTrails, prosiect adrodd straeon ymgolli mwyaf y DU. Mae'r prosiect yn agor yn Omagh ddydd Gwener 1 Gorffennaf, y cyntaf o 15 lleoliad o amgylch y DU, o Dundee i Abertawe ac o Blackpool i Lincoln.

Dywedodd David: "Mae StoryTrails yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi oherwydd mae'n ymwneud ag atgoffa ein hunain o'r lleoedd hynny sydd nid yn unig yn arbennig i ni, ond sy'n arbennig i genedlaethau'r gorffennol. Mae'r pŵer o ddefnyddio technolegau newydd i argraffnodi straeon o'r gorffennol ar le, ar bwyntiau daearyddol penodol ar y ddaear yn hynod gyffrous. Ac mae'n digwydd yma yn Sheffield ac ar draws y DU yn 2022."

Dywedodd yr Athro James Bennett, Cyfarwyddwr StoryFutures a StoryTrails: "Mae StoryTrails yn dod â realiti estynedig, realiti rhithwir a sinema ymgolli ynghyd i gymunedau ledled y wlad gan ddatgelu straeon nas adroddwyd o’r blaen mewn mannau lle nad ydym erioed wedi bod o'r blaen. 1000 o straeon, 15 lleoliad, 4 math o dechnoleg ymgolli wedi eu rhoi yn nwylo 50 o bobl greadigol newydd er mwyn dod â'r straeon hynny'n fyw. Mae StoryTrails yn ymwneud â chael pobl i fwynhau straeon lleol drwy dechnoleg newydd".