Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Science Museum Lates
Our Place in Space yn Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain
- Date and time
-
26 Hydref
- Publication date
Mae Sesiynau Hwyr yr Amgueddfa Wyddoniaeth ar gyfer oedolion yn unig, sef nosweithiau thema ar ôl oriau agor sy'n cael eu cynnal yn yr amgueddfa ar y dydd Mercher olaf bob mis. Bydd Our Place in Space yn rhan o'u digwyddiad Ffuglen Wyddonol ar 26 Hydref 2022, 18.30-22.00.
Gallwch gael profiadau ymarferol ac ymchwilio i ffiseg ffuglen wyddonol gydag arddangosfeydd rhyngweithiol, creu eich cerddoriaeth thema ffuglen wyddonol eich hun ac adnabod uwchnofâu mewn amser real!
Our Place in Space
Profiadau ymarferol gyda ffiseg ffuglen wyddonol.

Mark y Gwyddonydd
Dewch i gwrdd â Mark Langtry ac ymchwilio i ffiseg ffuglen wyddonol gydag arddangosfeydd rhyngweithiol – sut y gall ffiseg wneud yr hyn sy’n ymddangos yn amhosibl, yn bosibl?

Trac Sain Ffuglen Wyddonol
Mae'r arddangosfa ymarferol hon yn eich galluogi i greu eich cerddoriaeth thema ffuglen wyddonol eich hun gyda syntheseinyddion modwlar a theremin.

Bwth Darganfod Uwchnofa
Archwiliwch y gofod ac adnabod eich uwchnofa eich hun gyda thîm Astroffiseg Prifysgol y Frenhines Belfast.

Gorsaf Hun-lun Sgrin Werdd
Dewch yn rhan o'ch hoff ffilmiau ffuglen wyddonol gyda'r sgrin werdd ryngweithiol hon.
Bydd y digwyddiad Science Fiction Lates hefyd yn cynnwys sgyrsiau, arddangosfa gwisgoedd ffuglen wyddonol, recordiadau o bodlediadau byw, cwis tafarn ar thema ffuglen wyddonol a disgo distaw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Amgueddfa Wyddoniaeth.