1

44,000 yn bresennol yng Ngŵyl Dandelion

Bu dros 40,000 o bobl yn partïo ym Mharc Kelvingrove yng Ngŵyl Dandelion rhwng dydd Gwener a dydd Sul 17-19 Mehefin, mewn dathliad o dyfu a cherddoriaeth.

Published:

Download the '44,000 present at Dandelion Festival' press release (PDF)

Roedd cynulleidfaoedd yn dawnsio i’r prif artistiaid Les Amazon d'Afrique, Newton Faulkner, Admiral Fallow Niteworks o flaen y 'Pafiliwn o Olau Parhaus' – 'llwyfan byw' a wnaed o 60 o giwbiau tyfu carlam unigryw Dandelion, 1x1 metr o faint, gyda phlanhigion llysiau byw y tu mewn iddynt.

Trawsnewidiwyd y parc gan yr ŵyl di-docyn am ddim gyda cherddoriaeth fyw, theatr stryd, sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau creadigol i archwilio cynaliadwyedd, tyfu cymunedol a gweithredu ar yr hinsawdd. Wedi'i gomisiynu gan EventScotland a'i ariannu gan Lywodraeth yr Alban, mae Dandelion yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Perfformiodd artistiaid o'r Alban a rhai rhyngwladol ar dri llwyfan, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Celtic Connections a Glasgow Life, gan gynnwys Les Amazones d'Afrique, Newton Faulkner, Admiral Fallow, Rura, This is the Kit, Darlingside, Niteworks, VanIves, Shooglenifty, Rachel Sermanni, Sam Lee, Cerddorfa Qawalli, Jason Singh, Hen Hoose a llawer mwy.