1

StoryTrails yn yr Alban

Gwahodd trigolion i weld Dundee a Dumfries yn wahanol wrth i gyfres o ddigwyddiadau adrodd straeon arloesol am ddim ledled y DU gael eu lansio yn yr Alban

Published:

Lawrlwythwch ddatganiad i'r wasg 'StoryTrails in Scotland' (PDF)

Dros yr haf, mae StoryTrails, profiad adrodd straeon ymgolli mwyaf y DU, yn gwahodd trigolion Dundee a Dumfries i glywed straeon lleol nas adroddwyd o’r blaen am bob tref drwy dechnolegau amlgyfrwng arloesol. Mae’r actores ac un o drigolion Dumfries Joanna Lumley a’r athletwraig o Dundee Eilish McColgan ymhlith yr adroddwyr straeon sy'n amrywio o Olympiaid anghofiedig Dundee, i goroni 'Brenhines y De' yn flynyddol yn Dumfries.

Mae StoryTrails, sy'n rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, yn dod i'r Alban gyda dau ddigwyddiad byw am ddim sy’n cael eu cynnal ar 7 ac 8 Gorffennaf yn Dundee ac ar 12 a 13 Gorffennaf yn Dumfries, fel rhan o daith o amgylch 15 o drefi a dinasoedd ledled y DU eleni . Wedi'i ganoli o amgylch Llyfrgell Ganolog Dundee a Llyfrgell Ewart yn Dumfries, yn ogystal ag ar strydoedd y trefi eu hunain, mae'r digwyddiadau'n cynnwys profiadau digidol sy'n caniatáu i bobl gael profiad cwbl newydd o’r dref drwy hud a lledrith realiti estynedig (AR), realiti rhithwir (VR) a sinema ymgolli. Mae’r ddau ddigwyddiad StoryTrails yn yr Alban yn rhan o raglen bartner Blwyddyn Straeon 2022 yr Alban.