1

StoryTrails Recriwtiwyd 50 o bobl greadigol

Mae 50 o weithwyr creadigol proffesiynol wedi’u recriwtio i ddatblygu StoryTrails, profiad adrodd straeon ymgolli mwyaf erioed y DU ar gyfer UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'StoryTrails 50 o bobl greadigol wedi'u recriwtio' (PDF)

Mae hanner cant o’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol y DU wedi’u recriwtio gan StoryFutures Academy i helpu i ddatblygu a chyflwyno StoryTrails, profiad adrodd straeon ymgolli unigryw i gynulleidfaoedd mewn 15 o drefi a dinasoedd ledled y DU fel rhan o UNBOXED, y dathliad arloesol o greadigrwydd ledled y DU yn 2022.

Mae’r tîm o bobl greadigol sy’n dod i’r amlwg – carfan dalentog a deinamig sy’n cynrychioli poblogaeth y DU – yn dwyn ynghyd amrywiaeth ac arloesedd i fapio llwybr newydd ar gyfer dyfodol adrodd straeon. Gan ddefnyddio technolegau ymgolli o’r radd flaenaf, bydd StoryTrails yn dod â straeon diddorol a chudd o’r gorffennol yn fyw, gan gysylltu cynulleidfaoedd â straeon wedi’u hysbrydoli gan ymdeimlad gwirioneddol o le drwy hud a lledrith y rhyngrwyd 3D.