1

StoryTrails yn Cymru

Straeon am fewnfudwyr o'r Eidal a theuluoedd Windrush yn cael lle blaenllaw mewn profiad adrodd straeon ymgolli arloesol ledled y DU wrth iddo gael ei lansio yng Nghymru

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "StoryTrails yn Wales" (PDF)

Mae straeon dau deulu o fewnfudwyr a ddefnyddiodd eu hangerdd a'u hysfa i ddod yn ganolog i'w cymunedau mabwysiedig yn cael eu hadrodd mewn ffordd gwbl newydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg, drwy lwybr realiti estynedig o gwmpas Casnewydd ac Abertawe fis Awst eleni fel rhan o StoryTrails, profiad adrodd straeon ymgolli mwyaf y DU.

I’r teulu Freckleton, sef teulu Windrush, roedd cerddoriaeth yn ganolog i’r broses o sefydlu eu hunain yng Nghasnewydd, ac fe drechodd Joe Cascarini a'i chwaer galedi i sefydlu'r brand hufen iâ enwog Joe's Ice Cream, sydd bellach yn dathlu ei ganmlwyddiant. Mae'r straeon, sy’n cael eu hadrodd yn Saesneg gan yr actoresau Michelle McTurnen (Abertawe) ac Adeola Dewis (llwybr Casnewydd) ac yn Gymraeg gan Tonya Smith, ymhlith cannoedd sy'n cael eu hadrodd drwy dechnolegau amlgyfrwng arloesol, dros yr haf.

Mae StoryTrails, sy'n rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, yn cynnwys profiadau a fydd yn caniatáu i drigolion gael profiad gwbl newydd o Abertawe a Chasnewydd drwy realiti estynedig (AR), realiti rhithwir (VR) a map ymgolli o'r ddinas. Wedi’u canoli o amgylch Llyfrgell Abertawe ar 10 ac 11 Awst a Llyfrgell Ganolog Casnewydd ar 13 a 14 Awst ac ar strydoedd y ddwy ddinas, mae'r profiadau ymhlith 15 o leoliadau ledled y DU a fydd yn cynnal StoryTrails dros yr haf.

Mae'r llwybr realiti estynedig yn Abertawe y ceir mynediad iddo drwy ddyfeisiadau symudol, yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod llwybr Joe Cascarini wrth iddo greu'r brand hufen iâ enwog yn Abertawe o’r cyfnod ar ôl iddo gyrraedd o'r Eidal yn y 1920au, drwy’r berthynas gefnogol gyda’i chwaer, hyd heddiw ac fe wahoddir pawb i barti canmlwyddiant digidol. Cyrhaeddodd y teulu Freckleton gymdogaeth y Pîl yng Nghasnewydd yn y 1950au, gan ddenu torfeydd lleol i'w heglwys leol a man cyfarfod. Mae ymwelwyr yn eu gweld yn symud i safle mwy ar gyfer y gynulleidfa gyda thambwrinau wedyn yn ymuno â gitarau, banjos a drymiau.

Crëwyd y llwybrau drwy ddefnyddio ffilmiau’r BBC a Sefydliad Ffilm Prydain ac archif lleol i gyflwyno ffenestr i'r gorffennol. Gall ymwelwyr fenthyg dyfeisiau o'r llyfrgell a dilyn llwybrau realiti estynedig tywysedig drwy gydol y digwyddiad deuddydd yn ogystal â dilyn y llwybr yn annibynnol drwy lawrlwytho ap StoryTrails ar eu dyfeisiau eu hunain.

Tu mewn i’r llyfrgell, mae mapiau ymgolli ym mhob lleoliad yn datgelu deg stori am bobl leol a thirnodau cyfarwydd, megis Pier y Mwmbwls, Stadiwm Swansea.com ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe; a Thŷ Tredegar, Pont Gludo Casnewydd ac Ynys Gilligan yng Nghasnewydd. Cafodd y mapiau eu creu gan Owen Richards yn Abertawe a gan George McDonagh yng Nghasnewydd drwy broses o sganio'r bobl a'r adeiladau i greu darlun o fywyd a threftadaeth pob lleoliad. Chwaraeir y ffilmiau 15 munud ar ddolen drwy gydol y dydd ac mae modd gwylio 20 stori arall ar iPads yn y llyfrgell.

Mae Owen a George, a Jay Bedwani a Mohamad Miah, a greodd y llwybrau AR yn Abertawe a Chasnewydd yn y drefn honno, yn bedwar o 50 o bobl greadigol sy’n dod i’r amlwg o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a ddewiswyd i gymryd rhan yn natblygiad StoryTrails ac elwa ar gyfleoedd hyfforddi arbenigol a mentora gan StoryFutures Academy, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Adrodd Straeon Ymgolli, y tîm y tu ôl i StoryTrails. Mae Academi StoryFutures yn cael ei rhedeg gan Royal Holloway, Prifysgol Llundain a'r Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol (NFTS).