Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Partneriaeth RSA ag UNBOXED
Sut mae’r RSA yn gweithio gydag UNBOXED i archwilio dychymyg a chreadigrwydd
- Publication date
Tua diwedd 2021, lansiodd yr RSA bartneriaeth ag UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, a chychwyn prosiect archwilio byd-eang o'r enw Collective Futures sy'n edrych ar botensial dychymyg cyfunol a chydweithio creadigol i lunio dyfodol gwell i bobl ac i'r blaned.
Bydd yr RSA yn ategu'r gwaith cyffrous y mae UNBOXED yn arwain arno, ac yn archwilio o safbwynt byd-eang a chynhwysol werth mabwysiadu dull creadigol, cyfunol, cydweithredol a dychmygus o lunio'r hyn y gallai ein dyfodol fod. Bydd yr archwiliad yn ateb y cwestiwn canlynol:
Sut gall dychymyg cyfunol a chydweithio creadigol helpu i lunio dyfodol gwell i bobl ac i’r blaned?
Bydd yr RSA yn archwilio, yn dysgu ac yn rhannu gwaith gan unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled y byd, gan ganolbwyntio ar enghreifftiau sy'n dod â phobl at ei gilydd i weithredu a llunio dyfodol gwell i bobl ac i'r blaned.
- CYFUNOL: pan fo lleisiau amrywiol yn cydweithio ar draws eu cefndiroedd, profiadau a’u ffyrdd amrywiol o feddwl, i newid rhywbeth sy'n effeithio ar eu bywydau a'u lleoedd eu hunain.
- CANOLBWYNTIO AR Y DYFODOL: pan fo’r sail ar gyfer cydweithredu a chyfranogi mewn cynllunio, dylunio, dychmygu neu ragweld dyfodol hirdymor a ddymunir yn greadigol.
- I BOBL AC I’R BLANED: arferion sy'n cydnabod bod heriau cymdeithasol ac ecolegol yn gydgysylltiedig, ac yn ymdrechu i greu gwell dyfodol ar gyfer pob bywyd ar y ddaear.
Mae'r math hwn o waith yn ymddangos mewn llawer o wahanol gyd-destunau, felly bydd yr archwiliad yn edrych yn benodol ar waith sy'n digwydd:
- MEWN CYMUNEDAU: gan y rhai sy'n byw mewn lle ac yn gofalu amdano, sy'n cymryd rhan ac yn cydweithio i greu dyfodol gwell i bobl ac i’r blaned.
- TRWY DDYSGU: gan y rhai mewn cyd-destun addysgol (ffurfiol neu anffurfiol), sy'n cymryd rhan ac yn cydweithio i greu gwell dyfodol i bobl ac i'r blaned.
- YN Y GWAITH: gan y rhai o fewn sefydliad sy'n llunio swyddi, gwasanaethau a diwydiannau ac sy'n cymryd rhan ac yn cydweithio i greu dyfodol gwell i bobl ac i’r blaned.
Pam mae'r gwaith hwn yn bwysig?
Rydym yn byw mewn cyfnod unigryw mewn hanes lle mae cymunedau'n cael eu ffurfio nid yn unig yn lleol, ond yn fyd-eang. Mae'r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y mae cymunedau'n eu hwynebu yn gymhleth ac yn systemig. Nid yw difaterwch yn opsiwn mwyach er mwyn i ddynoliaeth ffynnu, mae angen i ni weithredu. Mae'r archwiliad Collective Futures wedi'i seilio ar dair egwyddor graidd: bod yn agored, yn wreiddiol ac yn optimistaidd.
Wrth ymateb i heriau, mae'n bwysig gweithio yn agored ac mewn ffordd hawdd i bawb fod yn rhan ohono. Mae'r RSA yn credu bod yn rhaid i bobl fod wrth wraidd llunio eu dyfodol. I gael effaith wirioneddol, mae angen cyd-greu arferion gyda lleisiau a phrofiadau amrywiol.
Ni allwn ymateb i heriau heddiw drwy ddefnyddio'r un ffyrdd o feddwl a wnaeth eu creu. Mae angen ffyrdd hollol wahanol a gwreiddiol o gydweithio ac adfywio ein gallu i greu a dychmygu, i symud tuag at ddyfodol sy'n diwallu ein hanghenion cyfunol.
Mae angen i ni symud tuag at weithredu mewn ffyrdd sydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol. Ni allwn barhau i feddwl mewn cylchoedd tymor byr sy'n arwain at ganlyniadau negyddol hirdymor. Gall optimistiaeth rymuso pobl i ddychmygu dyfodol gobeithiol ac i weithredu nawr.
Sut i gymryd rhan
Mae llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â Collectice Futures. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn tri cham.
- Cam un oedd yr alwad agored a wahoddodd pobl ledled y byd i gyflwyno enghreifftiau o'r hyn y maent yn ei wneud i helpu i lunio dyfodol gwell i bobl ac i'r blaned.
- Ym mis Mehefin 2022 cawn gam dau, pan fydd yr RSA yn dod ag ymarferwyr ynghyd i rannu gwaith a chyd-lunio canllaw arfer gorau y dyfodol ym maes dyfodol ar y cyd.
- Yn olaf ym mis Awst – Medi 2022 bydd cam tri, pan fyddan nhw’n rhannu ac yn profi'r canllaw mewn cyfres o sgyrsiau creadigol byd-eang hybrid sy'n agored i unrhyw un sydd â diddordeb a chwilfrydedd mewn dyfodol ar y cyd.
Os yw eich gwaith yn cyd-fynd yn agos â'r archwiliad hwn, anfonwch e-bost at y tîm yn unboxed@thersa.org.uk.
Pwy yw'r RSA?
Mae'r RSA wedi ymrwymo i ddyfodol sy'n gweithio i bawb, lle gall pob un ohonom chwarae rhan wrth ei greu.
Maent wedi bod ar flaen y gad o ran effaith gymdeithasol ers dros 260 o flynyddoedd ac yn dangos proses newid brofedig, ymchwil drylwyr, llwyfannau syniadau arloesol a chymuned fyd-eang amrywiol o 30,000 o ddatryswyr problemau sy'n darparu atebion ar gyfer newid parhaol.