1

Bywyd yn y Bydysawd

Archwilio bywyd mewn amodau eithafol – ar y Ddaear a thu hwnt...

Project page

Our Place in Space

Ages

7-8 8-9 9-10 10-11

Topic

Cysawd yr haul a thu hwnt Cynaliadwyedd a’n dyfodol

Format

Cynllun gwers

Duration

60 minutes

Sut mae ffurfiau bywyd yn goroesi mewn amodau eithafol yma ar y Ddaear – a beth allem ni ei ganfod yn byw yn y bydysawd y tu hwnt i'n planed ni?

Mae'r cynllun gwers PDF am ddim hwn yn rhoi trosolwg o ffurfiau bywyd sy'n byw ac yn ffynnu mewn amgylcheddau eithafol: fel arafsymudwyr, 'eirth dŵr' sydd yn mesur dim mwy na 0.5mm yn eu llawn dwf. Mae'r wers hefyd yn archwilio lleoedd mor anarferol ag Anialwch yr Atacama, sydd ag amgylchedd sy’n debyg i’r blaned Mawrth – ac yn ystyried sut y gallem ni ddefnyddio technoleg i ddod o hyd i fywyd mewn mannau eraill yn y bydysawd.

Mae'r PDF yn cynnwys darluniau gan Oliver Jeffers, yr awdur a'r artist plant enwog, ac mae'n cynnwys sawl ffilm sy'n cyflwyno pynciau allweddol. Mae’r cynllun gwers yn cynnwys digon o awgrymiadau ar gyfer trafodaethau a gweithgareddau creadigol wedi'u hysbrydoli gan y themâu hyn – gwneud ffilm, creu e-lyfr, cynllunio chwiliedydd y gofod robotig a mwy.

Cynllun gwers

Cysylltiadau’r cwricwlwm

Lloegr:
Science: Working Scientifically, Earth & Space Y5.
Key Stage: KS2

Gogledd Iwerddon:
The World Around Us: Place – Our Place in the Universe
Key Stage: KS2

Yr Alban:
Sciences: Planet Earth – Space
Level: Second Level

Cymru:
Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Bod yn Chwilfrydig, Mater.  
Cam Cynnydd: Cam 3