1

Green Space Dark Skies yn North York Moors

Angen pobl i ddod at ei gilydd i greu gwaith celf awyr agored anhygoel ar Rosydd Gogledd Swydd Efrog

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Green Space Dark Skies in North York Moors' (PDF)

Mae'r cwmni celfyddydau awyr agored Walk the Plank yn recriwtio pobl o'r rhanbarth a'r cyffiniau i gymryd rhan mewn digwyddiad ar Rosydd Gogledd Swydd Efrog o'r enw Green Space Dark Skies, rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Bydd y cynhyrchiad yn gweld pobl o ddinasoedd, trefi ac ardaloedd gwledig yn y rhanbarth yn dod ynghyd gydag artistiaid a phobl greadigol i greu cysylltiadau cyfunol pwerus â'r dirwedd.

Bydd y gwaith celf yn cael ei greu gyda'r nos gan gyfranogwyr, a fydd yn cael eu galw'n Lwmenyddion, o'r ardal leol. Byddant yn cael eu tywys ar hyd lwybrau neu ddyfrffyrdd yn cario goleuadau clyfar, sy'n sensitif i'r amgylchedd yn ystod y nos a bydd y coreograffi digidol hardd yn cael ei gipio ar ffilm ac ar gael i'w wylio ar-lein wedyn. Bydd pob ffilm fer yn ymgorffori straeon y bobl a'r lleoedd dan sylw.

Bydd y Lwmenyddion hefyd yn cael eu hannog i rannu eu cysylltiadau eu hunain â'r dirwedd a'r ardaloedd lleol fel rhan o'r prosiect. Bydd y gwaith celf yn dychmygu ffordd newydd o weld y dirwedd leol ar Rosydd Gogledd Swydd Efrog ac yn ysbrydoli pobl i ofalu am y blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.