1

Ffilm Green Space Dark Skies Dorset

Mae AHNE Castell Maiden Dorset yn cymryd rhan flaenllaw mewn ffilm fer newydd bwerus sy’n dathlu harddwch y rhanbarth - gan ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Ffilm Green Space Dark Skies Dorset" (PDF)

Gall pobl leol gefnogi Green Space Dark Skies drwy gyflwyno eu storïau eu hunain am atgofion y dirwedd.

Mae ffilm newydd bwerus yn dathlu digwyddiad rhyfeddol a gafodd ei gynnal yng AHNE Nghastell Maiden, Dorset fis diwethaf. Daeth artistiaid a grwpiau cymunedol o’r holl ranbarth at ei gilydd ar 11 Mehefin, fel rhan o brosiect Green Space Dark Skies y DU gyfan, dan arweiniad Walk the Plank fel rhan o ŵyl UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Gyda’i gilydd, gwnaethon nhw archwilio tirwedd ryfeddol AHNE Dorset drwy fynd ar daith hudolus yn y nos. Ar draws tablo anhygoel o farddoniaeth a pherfformio, cerddoriaeth a dawns a chelf oleuadau effaith ysgafn fe wnaethon nhw greu rhywbeth gwirioneddol hynod. Cafodd y digwyddiad ei recordio ac mae nawr yn cael ei ryddhau fel ffilm sydd ar gael i'w wylio yma.

Mae Green Space Dark Skies wedi’i gynllunio i dynnu sylw at sut yr ydym ni’n diogelu dyfodol ein cefn gwlad a’n hawliau i gael mynediad iddo. Roedd digwyddiad Dorset yn un o gyfres a gafodd eu gwneud mewn lleoliadau gwledig ledled y DU. Ac mae dal cyfleoedd i bobl gymryd rhan drwy gyflwyno eu profiadau a’u hatgofion eu hunain o fod yn y dirwedd i arolwg gwyddoniaeth dinasyddion Green Space Dark Skies.

Mae egni’r ffilm fer yn dangos sut y daeth Green Space Dark Skies â grwpiau amrywiol at ei gilydd – goleuadau Geo effaith isel yn dangos y llawenydd a’r pleser ar wynebau cyfranogwyr.

Roedd geiriau’r bardd a’r awdur Zakiya McKenzie yn ganolog i’r digwyddiad byw ac maen nhw’n rhoi naratif i'r ffilm. Yn ei geiriau hi: "Mae’r lle hwn ar wasgar dros amser. Gan adrodd hanes y ddaear wedi’i bacio a’i rhwymo gan y rhai a roddodd straeon bytholwyrdd o fewn cyrraedd. Straeon wedi’u cadw’n ddiogel. Ar draws y rhagfuriau a’r twmpathau gyda harddwch oddi tanynt. Rydym ni’n cloddio am hen ddarnau ac yn eu hel at ei gilydd tan nos..."

Roedd cyfranogwyr yn y ffilm yn rhan o greu’r gwaith celf yn y dirwedd gan ddefnyddio symudiadau a goleuadau Geo wedi’u cynllunio’n arbennig gan beirianwyr graddedig yn Siemens. Cafodd y tîm creadigol ar gyfer y digwyddiad ei arwain gan gynhyrchwyr lleol Activate Performing Arts. Ymunodd y rapiwr Isaiah Dreads o Dorchester a’r coreograffydd Isathra Isramaniam â Zakiya McKenzie i ddyfeisio awyrgylch unigryw.