Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
GALWAD i Ddarlledu ar Sky Arts
Drama Fyw Arloesol - Wedi'i Creu, ei Ffilmio a'i Gosod yng Nghymru - i'w Darlledu ar Sky Arts
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "GALWAD i Ddarlledu ar Sky Arts" (PDF)

Cyhoeddir heddiw mai Sky Arts yw’r partner darlledu i gyflwyno GALWAD: STORI O'N DYFODOL, stori ddynol o'r Gymru gyfoes sy'n cynnig cipolwg i'r dyfodol ac yn gofyn beth fyddai'n digwydd pe bai'r dyfodol yn ceisio cysylltu â ni.
Bydd y stori’n datblygu mewn amser go iawn ar lwyfannau digidol a darlledu, gan gyfuno perfformiadau byw a drama deledu, i ffurfio math newydd o ddigwyddiad diwylliannol, rhwng 26 Medi a 2 Hydref 2022.
Mae GALWAD, sydd wedi’i gomisiynu gan Gymru Greadigol fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y Deyrnas Unedig, yn dod â thîm o 200 o ddoniau creadigol mwyaf beiddgar Cymru ynghyd i adrodd stori drwy ffrydio byw a darlledu byw o Abertawe, Merthyr Tudful a Blaenau Ffestiniog.
Ymhlith y doniau actio sy’n cael eu cyhoeddi ar gyfer GALWAD heddiw mae Alexandria Riley, Matthew Aubrey, Nitin Ganatra a Rhodri Meilir.
O 26 Medi ymlaen, gall cynulleidfaoedd ddilyn y stori ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y teledu wrth iddi symud rhwng Cymru heddiw a Chymru ddeng mlynedd ar hugain i’r dyfodol, drwy diwnio i mewn i S4C a drwy Facebook, Twitter, Instagram, YouTube a TikTok.
Daw’r stori i ben gyda darllediad pedair awr o hyd ar Sky Arts yn cynnig cyfle i ddal i fyny ar ddigwyddiadau’r wythnos yn Abertawe, Merthyr Tudful a Blaenau Ffestiniog cyn y diweddglo fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw o Flaenau Ffestiniog a drama awr o hyd wedi’i gosod yn y dyfodol.