Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Ein Lle Mewn Lle yng Nghaergrawnt
Llwybr cerfluniau 10km o hyd o gysawd yr haul yn dod i lawr i'r Ddaear yng Nghaergrawnt
Published:
Ar ôl cynnal gosodiadau hynod lwyddiannus yn Derry-Londonderry a Belfast, mae ail-greu cysawd yr haul fel llwybr cerfluniau 10km a gynlluniwyd gan yr artist a'r awdur Oliver Jeffers yn dod i Gaergrawnt dros yr haf.
Mae 'Our Place in Space', sydd wedi derbyn llawer o ganmoliaeth, yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, ac mae'n gydweithrediad unigryw ar draws meysydd celf, gwyddoniaeth a thechnoleg - model ar raddfa epig o gysawd yr haul a gynlluniwyd gan yr artist a'r awdur plant Oliver Jeffers, sy'n cynnwys llwybr cerfluniau tri dimensiwn 10km o hyd. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys ap realiti estynedig rhyngweithiol, a rhaglenni dysgu a digwyddiadau sylweddol. Mae Our Place in Space yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
O greu seren i ysgrifennu symffoni ar gyfer y bydysawd, dyfeisio math newydd o drafnidiaeth, adeiladu planed Minecraft neu gysylltu â gwylwyr y gofod ledled y byd, Mae Our Place in Space yn gwahodd cyfranogwyr i ystyried sut y gallem ni rannu a diogelu ein planed yn well yn y dyfodol a beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'ni' a 'nhw'? Mae'n dod â chysawd yr haul i lawr i'r Ddaear ac yn ein hanfon i'r sêr i ddod o hyd i safbwyntiau newydd ac ailystyried yr hyn y mae'n ei olygu i fyw bywyd ar y Ddaear.