Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Cyfrifiad Canfyddiad Dreamachine
Ydych chi’n gweld beth rwy’n ei weld?
- Publication date
Cymerwch ran yn arolwg Dreamachine i'r meddwl dynol

Daeth y ffotograff uchod yn ffenomen feirol ar y rhyngrwyd nôl yn 2015. Roedd y rhai a welodd y llun yn anghytuno ynghylch a oedd y wisg a welsant wedi'i lliwio'n ddu a glas neu’n wyn ac aur. Datgelodd hyn wahaniaethau yn y ffordd yr ydym ni fel bodau dynol yn canfod lliw, pwnc ymchwiliadau gwyddonol parhaus i niwrowyddoniaeth a gwyddor y golwg.
Nawr mae gennych chi gyfle i gymryd rhan yn yr arolwg mwyaf erioed sy'n edrych ar y gwahanol ffyrdd yr ydym ni'n gweld ac yn profi'r byd o'n cwmpas.
Mae miloedd o bobl o bob cefndir eisoes wedi cymryd rhan yng nghyfrifiad canfyddiad Dreamachine, ac mae angen mwy ohonoch chi o bob cwr o'r DU ac ar draws y byd i helpu i greu darlun cynhwysfawr o sut mae ein meddyliau'n ymateb.
Dim ond rhyw 10 munud y mae'n ei gymryd i gwblhau'r arolwg ar gyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw ateb cyfres o gwestiynau syml am yr hyn a welwch chi ar y sgrin. Byddwch chi'n dysgu am y ffordd yr ydych chi'n canfod lliwiau, hudoliaethau, amser, sain, a mwy. Po fwyaf yr adrannau yr ydych chi'n eu cwblhau, y mwyaf y byddwch chi'n eu darganfod. Ac mae'n debygol y bydd yn wahanol i rai eich teulu a'ch ffrindiau.
Cymryd rhan nawr Darganfod mwy
Mae'r cyfrifiad canfyddiad yn rhan o raglen Dreamachine. Arweinir yr astudiaeth gan yr ymchwilwyr mwyaf blaenllaw’r byd, yr Athro Niwrowyddoniaeth Anil Seth o Brifysgol Sussex a’r Athro Athroniaeth Fiona Macpherson o Brifysgol Glasgow.