Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Cadarnhaodd Gŵyl Dandelion Inverness Artistiaid
Rhestr lawn o artistiaid a gweithgareddau wedi ei chyhoeddi ar gyfer yr Ŵyl Dandelion am ddim yn Northern Meeting Park, Inverness
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "Cadarnhaodd Gŵyl Dandelion Inverness Artistiaid" (PDF)
- Gŵyl Dandelion, gŵyl gerddoriaeth a chelfyddydol awyr agored am ddim sy'n dathlu cynaliadwyedd, dydd Gwener 2 – dydd Sul 4 Medi
- Bydd Del Amitri a Songhoy Blues yn ymuno â'r artistiaid a gyhoeddwyd yn flaenorol sef King Creosote, Tank and the Bangas, The Lost Words
- Bydd yr Ŵyl yn ymdrin â themâu cynaliadwyedd, tyfu cymunedol a gweithredu o ran yr hinsawdd drwy raglen o gerddoriaeth, perfformiadau, gweithgareddau creadigol, sgyrsiau a gweithdai
- Bydd sgyrsiau a thrafodaethau gan siaradwyr yn bodloni meddyliau chwilfrydig – mae’r rhestr o westeion yn cynnwys y gydweithfa The Lost Words, cyn Weinidog yr amgylchedd yng Nghymru Jane Davidson, yr awdur a'r meddyg teulu Gavin Francis, y bardd Jen Hadfield, yr artist Simone Kenyon, a'r awdur Patrick Laurie.
- Mae’r rhaglen lawn yn cynnwys theatr ar droed, gweithdai cyfranogol a lle penodol ar gyfer plant o dan 5 oed, gan wneud Gŵyl Dandelion yn ddiwrnod gwych i'r teulu cyfan
- Mae'r Ŵyl am ddim, ac nid oes angen tocyn
Y band roc o'r Alban Del Amitri a’r grŵp ‘blues’ o anialwch Mali, Songhoy Blues, yw'r artistiaid diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer Gŵyl Dandelion, gŵyl gerddoriaeth a chelfyddydol fawr am ddim sy'n cael ei chynnal yn Northern Meeting Park, Inverness, o ddydd Gwener 2 tan ddydd Sul 4 Medi.
Mae artistiaid newydd eraill ar y rhestr yn cynnwys Kefaya & Elaha Soroor, Cala, Goitse a Siobhan Miller. Mae'r cerddorion yn ymuno â rhestr gyfoethog o dalent Albanaidd a rhyngwladol gan gynnwys King Creosote, Tank and the Bangas, The Lost Words, Sona Jobarteh, Dreamers' Circus, Dallahan, Scott Matthews a llawer mwy.
Bydd arlwy dydd Gwener yn gorffen gydag un o fandiau mwyaf poblogaidd yr Alban, Del Amitri, yn perfformio hen ffefrynnau ynghyd â deunydd o Fatal Mistakes, eu halbwm newydd cyntaf ers bron i 20 mlynedd yn y sioe arbennig hon. Mae'r Songhoy Blues, sydd wedi cael canmoliaeth ryngwladol, yn dod â’r Ŵyl i ben brynhawn Sul, ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer diweddglo pwerus a deinamig i benwythnos bywiog iawn.
Mae'r ŵyl yn rhan o Dandelion, rhaglen greadigol ddeinamig sy’n dilyn bwa y tymor tyfu rhwng mis Ebrill a mis Medi 2022, gan ddod â cherddoriaeth, celf, gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd i ysbrydoli pobl i 'Hau, Tyfu a Rhannu', cerddoriaeth, bwyd, syniadau a straeon. Mae Dandelion wedi’i gomisiynu gan EventScotland ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth yr Alban ac mae’n rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.
Mae'r rhestr o berfformiadau cerddorol yng ngofal y cerddor, cyfansoddwr a'r cynhyrchydd o'r Alban, Donald Shaw, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Creadigol yr ŵyl fyd-enwog Celtic Connections yn Glasgow, sy'n cyflwyno'r ŵyl mewn partneriaeth â Dandelion. Bydd cynulleidfaoedd yr ŵyl yn mwynhau'r perfformiadau cerddorol ar ddau lwyfan – llwyfan ‘Pavilion of Perpetual Light’ a Llwyfan Dandelion, sydd wedi'u lleoli mewn safle arbennig ar gyfer yr ŵyl, sef Northern Meeting Park, Inverness.
Mae safle'r Ŵyl yn agor am 10am ddydd Gwener. Mae'r bore yn dechrau gyda rhaglenni wedi'u neilltuo ar gyfer ysgolion a phobl ifanc ond maen nhw’n agored i bawb, ac mae'r pentref bwyd a diod ar agor drwy’r amser. Mae'r rhaglen o gerddoriaeth fyw yn dechrau am 3pm, gyda chôr ieuenctid Gaeleg ysgol Bun-Sgoil Ghàidhlig Inbhir Nis, grŵp ceilidh ifanc Fèis Rois Ceilidh Trail ac yna cerddoriaeth draddodiadol gan Hamish Napier Trio a Pàdruig Morrison Group. Yna mae'r canwr/cyfansoddwr o'r Alban, King Creosote, yn dechrau gweithgareddau’r hwyr, gyda'r gantores Nati Dreddd yn ei ddilyn cyn i'r arwyr roc o'r Alban, Del Amitri, ddod â’r noson gyntaf i ben.
Ddydd Sadwrn, bydd sgyrsiau, perfformiadau a gweithgareddau o 11am ymlaen gyda cherddoriaeth fyw yn dechrau am 1pm gyda Cala, ac yna Acibreira, y canwr Indie o'r DU, Scott Matthews, y grŵp gwerin Scandinafaidd Dreamers' Circus a Sona Jobarteh o Gambia, a bydd ei mab a'i chyd-chwaraewr kora, Sidiki yn ymuno â hi ar y llwyfan. Yna caiff y cynulleidfaoedd fwynhau perfformiadau gan y gantores/cyfansoddwr Siobhan Miller, cyn i’r arlwy gyda’r hwyr ddod i ben gyda pherfformiad gan Tank and the Bangas a enwebwyd ar gyfer Gwobr Grammy.
Ddydd Sul bydd cyfle arall i weld Acibreira ynghyd â pherfformiadau gan y pumawd Gwyddelig Goitse, y gantores a'r cyfansoddwr o'r Alban, Hannah Rarity, un o'r grymoedd mwyaf unigryw yn y sin gerddoriaeth werin ryngwladol Dallahan, ac yna’r band gitâr Songhoy Blues fydd yn dod â’r Ŵyl i ben gyda’u cerddoriaeth ‘blues’ drydanol.
Ochr yn ochr â'r rhaglen gerddoriaeth, bydd yr Ŵyl yn cynnwys sgyrsiau gan awduron, artistiaid, ffermwyr, ac ymgyrchwyr yn trafod cynaliadwyedd, rheoli tir a'n perthynas newidiol ni â natur, wedi'u trefnu gan Uwch Gynhyrchydd Dandelion, Jenny Niven a Chynhyrchydd Gwyliau Dandelion, Lauren McKenna.
Bydd y sgyrsiau'n cael eu cynnal ym mhabell Hothouse, sydd ychydig y tu allan i'r parc ar dir Eden Court. Ymunwch â chyn Weinidog yr amgylchedd yng Nghymru, Jane Davidson, wrth iddi sôn am yr heriau y mae'r byd yn eu hwynebu o ran cynaliadwyedd a chadwraeth a'r etifeddiaeth yr ydym yn ei gadael i genedlaethau'r dyfodol; mae'r ysgrifennwr a’r meddyg teulu enwog Gavin Francis, awdur Adventures in Human Being, yn archwilio sut mae garddio, ac amser a dreulir ym myd natur yn cyfrannu'n uniongyrchol at iechyd a llesiant. Bydd Jen Hadfield, Brian O'Headhra a Simone Kenyon yn siarad am sut y maen nhw'n archwilio'r byd o'u cwmpas gan ddefnyddio geiriau, symudiad a cherddoriaeth, a sut gall celfyddyd wneud synnwyr o'r cyfnod eithriadol hwn, a bydd y ffermwyr o’r Alban Patrick Laurie, Richard Lockett a Helen O'Keefe yn trafod sut y gallwn lunio a chynnal dull mwy cynaliadwy o reoli tir. Bydd cynrychiolwyr o Erddi Annisgwyl Dandelion yn yr Ucheldiroedd yn trafod sut y maen nhw wedi trawsnewid lleoedd nas defnyddiwyd o’r blaen yn lleoedd i dyfu.
Yn ganolog i’r ŵyl fydd y 'Pavilion of Perpetual Light' ysblennydd, gosodiad celf trawiadol 10 metr o uchder a’r prif lwyfan. Mae'r pafiliwn wedi'i greu o drigain o giwbiau tyfu’n gyflymach 1m x 1m a grëwyd yn arbennig ar gyfer rhaglen Dandelion, wedi’u dwyn ynghyd i ffurfio adeiledd enfawr gyda llwyfan yn rhan ohono yn gweithredu fel cefndir 'byw' i berfformiadau gan Mischief-la-Bas, y cwmni celfyddydau awyr agored rhyngweithiol arloesol sy’n canolbwyntio ar 'ystumio’n araf haen waelodol cyfansoddiad cymdeithas', yn ogystal â'r arlwy o gerddoriaeth.
Bydd gweithgareddau creadigol ar draws y safle hefyd yng Nghytiau Potiau pwrpasol Dandelion a gweithgareddau i'r teulu, gan gynnwys ardal y Feithrinfa i blant o dan 5 oed, lle gall plant ddarganfod byd synhwyraidd planhigion a natur, ochr yn ochr â sesiynau adrodd straeon.
Bydd cyfres o ‘Gytiau Potiau’ Dandelion wedi'u gosod ar draws y parc yn croesawu artistiaid, perfformwyr a sefydliadau cymunedol. Dathlwch iaith a diwylliant Gaeleg gyda Cultarlann inbhir Nis neu galwch heibio i fwynhau sesiynau am ddim gyda Cherddorion Preswyl Dandelion; dysgwch sut i greu seinweddau o fadarch, dewch yn ffermwr offer taro neu rhowch gynnig ar gyfansoddi caneuon wedi’u hysbrydoli gan natur. Caiff ymwelwyr gymryd rhan mewn plethu gwellt traddodiadol a chreu eu Cwlwm Cynhaeaf eu hunain y gallant fynd ag ef gartref neu ei wisgo fel broetsh, neu gallant ymuno â gweithdy Moniack Mhor, Canolfan Ysgrifennu Creadigol yr Alban.
Bydd Theatr Stryd ar droed yn cyfareddu a chyffroi plant ac oedolion ledled y parc – byddwch yn barod i weld iâr enfawr yn clwcian o gwmpas y lle, glöyn byw wyth troedfedd, gerbera enfawr, dau frawd gwallgof yn garddio a chrwydryn rocabili! Bydd cyfle hefyd i deuluoedd eistedd i lawr a gwylio sioeau llawn hwyl ar wahanol adegau drwy gydol y penwythnos. I roi dechrau da i ddydd Sadwrn, bydd cwmni theatr greadigol Pif-Paf yn perfformio sioe wych gyda phypedau, cerddoriaeth fyw, offer pwmpiadwy enfawr a llawer mwy.
Trwy gydol y penwythnos, bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau dewis gwych o fwyd stryd gan fasnachwyr fel Mrs Falafel, Stand Bahn Mi, Hector & Harriet, Papa's Loaded Fries a Hufen Iâ Asher. Bydd bar wedi'i drwyddedu'n llawn hefyd yn gwerthu dewis eang o gwrw a chwrw crefft o'r Alban, gwin a diodydd ysgafn.