Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Cyfranogiad Green Space Dark Skies yng Nghymru
Published:
Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg llawn 'Green Space Dark Skies in Wales' (PDF)
• Mae Green Space Dark Skies yn un o bum prosiect mawr sy’n cael eu cyflwyno yng Nghymru fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad o greadigrwydd sy’n digwydd ledled y DU yn 2022
• Mae 20,000 o Lwmenyddion yn cael eu recriwtio i helpu i greu gwaith celf ar gyfer Green Space Dark Skies yng Ngŵyr, Bannau Brycheiniog ac Ynys Môn, a ledled y DU
• Mae’r cyntaf o’r pum prosiect UNBOXED yng Nghymru yn agor ar 31 Mawrth yng Nghaernarfon gydag About Us. Yn nes ymlaen eleni byddwn yn gweld GALWAD: Stori o’n dyfodol, sydd wedi’i gomisiynu gan Cymru Greadigol.
Ledled y DU, mae 20,000 o bobl yn cael eu recriwtio i greu gwaith celf awyr agored ar raddfa fawr, gan gynnwys mewn pedair o dirweddau mwyaf eithriadol Cymru, ar gyfer Green Space Dark Skies, rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, o fis Ebrill i fis Medi 2022.
Y prosiect creadigol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn cael ei gynnal yn AHNE Gŵyr (13 Mai), Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Gorffennaf) ac Ynys Môn (dyddiad i’w gadarnhau), ac mae lleoliad y diweddglo eto i’w gyhoeddi.
Bydd gwaith celf Green Space Dark Skies yn cael ei greu gyda’r nos gan gyfranogwyr, y cyfeirir atynt fel Lwmenyddion. Byddant yn cael eu harwain ar hyd llwybrau neu ddyfrffyrdd gan gario goleuadau clyfar sydd wedi’u cynllunio’n arbennig gan beirianwyr Siemens. Byddant yn galluogi coreograffi digidol wedi’i ddal ar ffilm a byddant hefyd yn sensitif i amgylchedd y nos. Bydd pob ffilm fer yn cynnwys straeon y bobl a’r lleoedd o dan sylw a byddant yn cael eu darlledu ar-lein ar ôl y digwyddiad. Bydd y Lwmenyddion hefyd yn cael eu hannog i rannu eu cysylltiadau eu hunain â thirwedd Cymru a’r ardaloedd lleol fel rhan o’u cyfranogiad

Arbenigwyr celf awyr agored Walk the Plank yw’r prif sefydliad creadigol sy’n cynhyrchu Green Space Dark Skies.
Dywedodd Liz Pugh, Cynhyrchydd Creadigol, Cymru: "Mae’r canolbwynt ar gyfer y casgliadau o bobl yng Nghymru wedi’i lunio gan ddaeareg a hanes echdynnu – o’r marciau neolithig ar diroedd comin Gŵyr i geoparc Bannau Brycheiniog i’r mwynau o dan y ddaear ar Ynys Môn. Bydd y ffilmiau byr y byddwn ni’n eu creu ym mhob lle yn adrodd storisy’n benodol am bob lleoliad – gyda’n gilydd, byddwn yn goleuo sut mae pobl yn cysylltu â phob lleoliad ar hyn o bryd, yn 2022. Cofrestrwch i fod yn rhan o rywbeth hudolus, yn yr awyr agored, mewn lle yr ydych chi’n ei garu ac eisiau ei ddathlu."