1

Amdanom Ni yn dod i Paisley

Dathlu Popeth Amdanom Ni About Us: Yn Agor yn Paisley

Published:

Lawrlwythwch y datganiad llawn i'r wasg 'About Us yn dod i Paisley'

Digwyddiad anhygoel am ddim yn yr awyr agored yn Paisley yn archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes

• About Us fydd yn agor UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, dathliad unwaith mewn oes o greadigrwydd sy'n digwydd ledled y DU yn 2022

• Sioeau byw wedi eu creu gan yr artistiaid fideo arobryn a oedd y tu ôl i Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012, Stemettes a The Poetry Society fydd yn cynnwys cerddi ac animeiddiadau Scratch gan bobl ifanc o bob cwr o'r Alban a'r DU

• Côr Ffilharmonig Paisley, Côr Dinas Glasgow a Chôr Siambr Prifysgol Strathclyde i berfformio sgôr wreiddiol newydd sbon gan Nitin Sawhney CBE

Dydd Iau 27 Ionawr 2022: Bydd About Us; digwyddiad anhygoel yn yr awyr agored, na welwyd erioed o'r blaen, sy'n cyfuno perfformiadau byw a gosodiadau amlgyfrwng i ddathlu holl hanes y bydysawd o’r Glec Faw hyd heddiw yn cychwyn taith pum lleoliad yn y DU yn Paisley gyda rhagolwg cyhoeddus ar 28 Chwefror 2022 ac yn parhau o 1 i 6 Mawrth.

Yn cynnwys cerddi ac animeiddiadau Scratch gan bobl ifanc o ysgolion yn Swydd Renfrew, ar draws yr Alban a gweddill y DU, bydd y sioe tafluniad 25 munud yn trochi cynulleidfaoedd mewn taith gyffrous drwy 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes ers gwawr y bydysawd mewn dathliad o'r ffyrdd diddiwedd yr ydym yn cysylltu â'r cosmos, y byd naturiol, a'n gilydd.