1

About Us - Tŵr Llundain

Mae UNBOXED yn dod â 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes i dŵr Llundain gyda sioe oleuadau ryfeddol fyw

Published:

Lawrlwythwch y datganiad i'r wasg "About Us - Tŵr Llundain" (PDF)

Rhwng 16 a 19 Tachwedd, bydd Tŵr Llundain yn dod yn gynfas ar gyfer stori dros 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes, o’r Glec Fawr hyd heddiw. Caiff y tirnod eiconig ei drawsnewid gan About Us, sef sioe oleuadau ryfeddol sy’n cyfuno corau byw o bob rhan o Gymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon yn perfformio sgôr wreiddiol gan y cyfansoddwr a’r cerddor o fri, Nitin Sawhney CBE; barddoniaeth gan feirdd blaenllaw a phlant ysgol; a gosodwaith amlgyfrwng.

Mae About Us yn rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU, sef 10 comisiwn creadigol mawr y mae miliynau o bobl wedi’u mwynhau drwy ddigwyddiadau mewn dros 100 o leoliadau ledled y DU ac ar draws llwyfannau digidol a darlledu eleni.

Ym mis Mawrth, lansiodd About Us rhaglen fyw UNBOXED yn Paisley, cyn mynd i Derry-Londonderry, Caernarfon, Luton a Hull. Ym mhob lleoliad, bu adeiladau hanesyddol – o abaty i gastell i neuadd dref – yn gartref i stori yn dathlu’r ffyrdd diddiwedd yr ydym wedi’n cysylltu â’r cosmos, byd natur a’n gilydd, ac elfennau o’r sioe wedi’u creu gan blant ysgol ac aelodau o bob cymuned. Mae About Us yn Nhŵr Llundain yn dod â chynnwys a grëwyd gan a chyda phobl at ei gilydd o bob un o’r lleoliadau blaenorol.

Mae’r tafluniad 25 munud o hyd yn cynnwys geiriau gan rai o feirdd mwyaf cyffrous y DU heddiw: Llŷr Gwyn Lewis, Jen Hadfield, Jason Allen-Paisant, Khairani Barokka, Stephen Sexton a Grug Muse. Caiff y corau sy’n perfformio sgôr Nitin Sawhney eu cyfarwyddo’n gerddorol gan Osnat Schmool. Ac, ar gyfer About us yn Nhŵr Llundain, bydd cantorion o bob un o bum lleoliad y daith ledled y DU, gan gynnwys aelodau o gôr Codetta, Hull Freedom Chorus, Glasgow City Chorus, Côr Dre, Côr Eifionydd, a BIG Hat Factory Choir, yn dod ynghyd am y tro cyntaf.

Yn ystod y dydd, bydd gosodweithiau amlgyfrwng dros dro yn arddangos creadigrwydd plant wrth i gynigion buddugol cystadleuaeth farddoniaeth a chodio ryngwladol i bobl ifanc gael eu harddangos ochr yn ochr â cherddi ac animeiddiadau Scratch a grëwyd mewn gweithdai ysgol About Us, yn ogystal â phortreadau byw o bobl leol o leoliadau taith y DU. Eleni mae About Us wedi parhau i weithio ym mhob un o bum lleoliad y daith i gyflwyno gweithdai barddoniaeth a chodio.