1
Read

Y Daith Hyd Yma

Adroddiad newydd annibynnol yn amlygu effaith ein blwyddyn o greadigrwydd

Publication date
Collage of images from the ten UNBOXED projects

Nodyn gan Gadeirydd y Bwrdd

Heddiw cyhoeddir adroddiad newydd ar UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.

Mae UNBOXED: The Journey So Far wedi ei lunio gan ymgynghorydd y celfyddydau Graham Devlin ar ran Bwrdd UNBOXED.

Mae’r adroddiad yn archwilio pob agwedd ar UNBOXED – o’r cysyniad gwreiddiol i’w effaith ar gynulleidfa o dros 18 miliwn ledled y DU a thu hwnt rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2022 – ac mae’n gweithredu fel canllaw i ddeall graddfa ac effaith yr ymgymeriad mawr a chymhleth hwn.

Mae’n rhoi cipolwg ar y rhaglen arloesol wnaeth gynnal digwyddiadau byw mewn 107 o drefi, dinasoedd a phentrefi ledled y pedair cenedl, a welwyd gan 1.7 miliwn o blant, pobl ifanc a theuluoedd a gymerodd ran mewn gweithgareddau dysgu a chyfrannu ac a gefnogodd dros 6,000 o swyddi a chyfleoedd datblygu â thâl ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a’r celfyddydau. Mae 13.5 miliwn o bobl wedi mwynhau rhaglenni a grëwyd yn arbennig ar gyfer teledu ac ar-lein – nifer sy’n dal i dyfu, gan fod cynnwys darlleduadnoddau dysgu a phrofiadau digidol yn dal i fod ar gael ar-lein.

Mae’r cyhoeddiad yn crynhoi diben UNBOXED fel dathliad o greadigrwydd, gyda 10 o brosiectau newydd a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd ledled y DU ac ar-lein; a’i gyd-destun, yn erbyn cefndir pandemig COVID-19. Mae’n archwilio model comisiynu arloesol, a welodd 10 o dimau yn cael eu dewis o’r 299 o gynigion a gyflwynwyd yn wreiddiol. Yn olaf, mae’n nodi manylion rhai o fuddion allweddol y rhaglen, o gynyddu cynhwysiant cymdeithasol a chyfrannu at les pobl i arddangos defnyddiau arloesol o dechnoleg a phartneriaethau cefnogol a chydweithrediadau rhyngwladol mentrus.

Cyhoeddir gwerthusiad terfynol annibynnol gan KPMG yn ystod gwanwyn 2023.

Y Fonesig Vikki Heywood DBE, Cadeirydd, Bwrdd UNBOXED

Gweld yr adroddiad "UNBOXED: The Journey So Far" (PDF)