Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
Cyfleoedd Dysgu UNBOXED
Ewch amdani gyda Chyfleoedd Dysgu UNBOXED yn ystod tymor yr hydref eleni
- Date and time
-
20 Medi - 1 Tachwedd
Mae UNBOXED wedi dechrau’r flwyddyn academaidd newydd gyda rhaglen orlawn ar gyfer ysgolion a cholegau sy’n dod â STEM a’r celfyddydau (STEAM) ynghyd.
SEE MONSTER
Sioe deithiol UNBOXED: dydd Mawrth 20 Medi - dydd Llun 24 Medi
Yr wythnos hon, mae’r tîm Dysgu a Chyfranogi yn mynd â’r sioe deithiol UNBOXED i’r Tropicana yn Weston-Super-Mare. Yn ystod y dydd, bydd myfyrwyr peirianneg o Goleg Weston a De Swydd Gaerloyw a Choleg Stroud yn clywed am y sgiliau artistig a pheirianneg sydd eu hangen i drawsnewid y rig nwy yn osodiad celf, yn ardd ac yn rhaeadr hardd sy’n cynhyrchu ynni. Dros y penwythnos, bydd y sioe deithiol yn cynnal gweithgareddau gyda theuluoedd.
Our Place in Space
Gweithdai Wythnos Godio Genedlaethol: dydd Mercher 21 Medi - dydd Iau 22 Medi
Mae Our Place in Space yn cynnig gweithdai codio yn seiliedig ar thema’r gofod ar gyfer plant ar lefel gynradd ac ôl-gynradd. Mae arweinwyr arbenigol STEAM yn cyflwyno gweithdai digidol byw i’r dosbarth cyfan fynd i’r afael â nhw.
Gweithdai Wythnos Godio Genedlaethol
SEE MONSTER
SEE MONSTER ar agor i ysgolion: dydd Llun 26 Medi
Mae ysgolion o Weston yn cael dringo ar fwrdd SEE MONSTER eu hunain. Bydd cannoedd o bobl ifanc o ysgolion yn Weston yn ymweld fel rhan o raglen ddysgu ar y platfform ac oddi arno.
GALWAD
Wythnos ysgolion: dydd Llun 3 Hydref - dydd Gwener 7 Hydref
Mae GALWAD yn cynnal ei wythnos ysgolion, lle mae’n holi: “Os na fedrwn ni ddychmygu dyfodol gwell, sut medrwn ni lunio un?” Mae'n cynnig cyfres o wersi a gweithgareddau byw, wedi'u creu a'u cyd-lunio ag Eco-sgolion Cymru. Mae’r gwersi’n cynnwys cyfweliadau rhyngweithiol a sesiynau holi ac ateb gyda gwesteion arbennig, gweithgareddau difyr i ddisgyblion a chipolwg i’r dyfodol drwy gynnwys stori ddigidol GALWAD. Mae’r rhaglen yn annog ac yn ysbrydoli disgyblion i archwilio a chwestiynu beth fydd y dyfodol yn ei olygu i’w hysgolion, eu cymunedau a’u bywydau.
Bydd y gwersi byw yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, ac yn rhedeg bob dydd rhwng 9.30am a 10.15am, ac yn addas ar gyfer disgyblion 7 - 11 oed.
Our Place in Space
Wythnos Gofod y Byd: dydd Mawrth 4 Hydref - dydd Llun 10 Hydref
Gall ysgolion cynradd ac ôl-gynradd gymryd rhan mewn gweithdai ar-lein fel rhan o Wythnos Gofod y Byd, sy’n cynnwys ymgymryd â heriau a osodwyd gan y rhai sy’n ymwneud â theithio i’r gofod. Bydd tîm creadigol Our Place in Space yn tywys myfyrwyr drwy heriau a osodir gan bobl, gan gynnwys y gofodwr Chris Hadfield a'r peiriannydd McLaren, Ella Podmore.
SEE MONSTER
Wythnos Platfform ar gyfer Dysgu: dydd Llun 3 Hydref - dydd Gwener 7 Hydref
Mae SEE MONSTER yn cynnal wythnos Platfform ar gyfer Dysgu. Bydd sgyrsiau gyrfa wedi eu ffrydio'n fyw gan y bobl a greodd SEE MONSTER, gan gynnwys un gan y gwyddonydd hinsawdd pegynol Dr Amelie Kirchgaessnerfrom. Mae'r rhain ar gael i ysgolion uwchradd ledled y DU. Ceir hefyd amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer ysgolion lleol, gan gynnwys gweithdai a ddarperir mewn partneriaeth â'r Amgueddfa Hanes Natur.
SEE MONSTER: Platfform ar gyfer Dysgu
SEE MONSTER
Gwasanaeth Pawb ar Fwrdd SEE MONSTER ar gyfer ysgolion ledled y DU: dydd Iau 13 Hydref
Mae UNBOXED yn cynnal gwasanaeth fideo - Pawb ar Fwrdd SEE MONSTER - ar gyfer ysgolion cynradd ledled y DU. Gwahoddir plant, 7 - 11 oed, i gymryd rhan mewn gwasanaeth fideo lle gallant ddringo ar fwrdd yr anghenfil yn rhithwir a gweld y bobl a'i creodd. Bydd pob ysgol sy'n cofrestru yn cael pecyn dysgu, gan gynnwys pecyn Adeiladu SEE MONSTER, a dolen i daith rithwir 360 gradd gyda chwis a phwyntiau dysgu. Bydd y 100 ysgol gyntaf i gofrestru yn cael bocs o lyfrau ar y thema cynaliadwyedd ar gyfer eu llyfrgell.
Amdanom Ni
Amdanom Ni Nawr: dydd Sadwrn 19 Hydref - dydd Sadwrn 1 Tachwedd
Mae Stemettes yn dychwelyd i'r lleoedd yr ymwelodd â nhw yn ystod y daith Amdanom Ni ac yn gwahodd teuluoedd i ddiwrnodau wyneb yn wyneb modelu 3D, darlunio, HTML, a hwyl gyda mathemateg. Dewch i gwrdd â nhw yn Paisley, Hull, Luton, Bangor a Derry-Londonderry.
Dreamachine
Cwestiynau Mawr Bywyd: parhaus
Mae Dreamachine yn parhau i gynnig cyfle i blant ysgol gynradd ystyried sut mae ein hymennydd a’n synhwyrau yn gweithio gyda’i gilydd i’n helpu i ddeall y byd. Mae'r cwestiynau gwych hyn wedi'u defnyddio'n helaeth mewn ysgolion erbyn hyn, ac mae athrawon yn dechrau rhoi adborth ar eu profiad o'u defnyddio. “Mae fy nosbarth wedi mwynhau cymryd rhan yn y rhaglen Cwestiynau Mawr Bywyd yn fawr. Daeth yn rhan o’n trefn wythnosol ac rydym yn drist iawn ei fod wedi dod i ben.” Mr Dowell, Athro Blwyddyn 4, Ysgol Gynradd Chesterton.
PoliNations
Adnoddau dysgu ac ap: parhaus
Mae PoliNations yn parhau i gynnwys disgyblion mewn cyfleoedd dysgu am amrywiaeth drwy fioamrywiaeth.
Adnoddau dysgu ac ap PoliNations
Our Place in Space
Adnoddau dysgu ac ap: parhaus
Mae Our Place in Space yn ei gwneud hi'n bosibl i blant ddysgu am gysawd yr haul drwy ei ap, ei heriau a'i gynlluniau gwersi.