1
Read

UNBOXED yng Cymru

Darganfyddwch raglen digwyddiadau Cymru UNBOXED yn 2022

Publication date
a montage of images and logos next to written copy about the Wales programmes

Mae'r rhaglen UNBOXED yng Nghymru yn cychwyn heddiw gydag agoriad Amdanom Ni, digwyddiad awyr agored anhygoel sy’n rhad ac am ddim, sy'n archwilio 13.8 biliwn o flynyddoedd o hanes o'r Glec Fawr hyd heddiw.

Gyda’r nos, bydd Castell Caernarfon a’r Maes yn cael eu gweddnewid yn gynfas enfawr a fydd yn cyfuno animeiddio wedi’i fapio a’i daflunio'n fyw gyda barddoniaeth, cerddoriaeth, a chorau byw o Gymru yn perfformio sgôr newydd sbon gan Nitin Sawhney CBE. Mae beirdd o Gymru, Grug Muse a Llŷr Gwyn Lewis wedi ysgrifennu cerddi newydd ar gyfer sioeau byw Amdanom ni, a gyflwynir yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ystod y dydd, bydd gosodiadau fideo LED yn arddangos creadigrwydd plant a phobl ifanc o ysgolion cynradd yng Ngwynedd drwy gerddi ac animeiddiadau Scratch.

Mae rhaglen Cymru o UNBOXED 2022 hefyd yn archwilio popeth o hanesion cudd Casnewydd ac Abertawe i straeon pobl a lle yn nhirweddau Ynys Môn, Bannau Brycheiniog a Gŵyr, treftadaeth a hunaniaeth Cymru yw un o themâu allweddol y rhaglen yng Nghymru. Mae syniadau cyffredin am gynaliadwyedd amgylcheddol a'r gwahanol ffyrdd y mae pob un ohonom yn gweld y byd hefyd yn cael eu harchwilio wrth i'r rhaglen edrych i'r dyfodol.

- Bydd GALWAD: Stori o’n dyfodol, a gomisiynwyd gan Cymru Greadigol, yn gweld  talent fwyaf beiddgar Cymru ym maes sgrin, perfformiad a thechnoleg greadigol yn creu stori aml-blatfform gyda chyfranogwyr ledled Cymru, i ddatblygu mewn amser real dros wythnos. Mae GALWAD yn archwilio dyfodol posibl ymhen 30 mlynedd ym Mlaenau Ffestiniog, Merthyr Tudful ac Abertawe. Yn weithred greadigol ac uchelgeisiol o ddychymyg ar y cyd o Gymru a chan Gymru, caiff GALWAD ei ysbrydoli gan ddarn o ddeddfwriaeth sy'n unigryw i Gymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a bydd yn eich gwahodd i archwilio cyfyng-gyngor a phosibiliadau moesol math gwahanol o ddyfodol.

Green Space Dark Skies yn gwahodd 20,000 o bobl i gymryd rhan yn y gwaith o greu gweithiau celf awyr agored enfawr yn rhai o dirweddau eithriadol y DU. Mae grwpiau cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd wedi eu recriwtio i fod yn 'Oleuwyr' ar gyfer pum digwyddiad yng Nghymru, gan gynnwys Ynys Môn, Bannau Brycheiniog a Gŵyr, sy'n archwilio straeon y lleoliadau hynny a chysylltiad pobl â nhw.

- Mae Dreamachine yn fath newydd pwerus o brofiad trochi sy'n archwilio potensial diderfyn y meddwl dynol. Fe'i cyflwynir yng Nghaerdydd o 12 Mai. Tocynnau am ddim ar gael o heddiw ymlaen (30 Mawrth). (www.dreamachine.world)  Crëwyd Dreamachine gan Collective Act sy'n dwyn ynghyd Assemble, artistiaid sydd wedi ennill Gwobr Turner, Jon Hopkins, cyfansoddwr a enwebwyd am wobrau Grammy a Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw.

- Mae StoryTrails yn defnyddio datblygiadau newydd mewn technoleg rhyngrwyd 3D yn un o'r prosiectau hanes byw ac archif mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed. Bydd cynulleidfaoedd yn gweld Casnewydd ac Abertawe yn cael eu gweddnewid gan straeon na adroddwyd o’r blaen drwy realiti estynedig. Mae pobl greadigol o Gymru wedi cael eu recriwtio i wireddu'r prosiect hwn sy'n cynnwys yr hanesydd a'r darlledwr, David Olusoga OBE.