Enjoyed by millions
UNBOXED has reached over 18 million people across all four nations of the UK.
UNBOXED yn Alban
Rhaglen ddigwyddiadau UNBOXED yn yr Alban yn 2022
- Publication date

Mae'r chwe phrosiect sy'n cael eu cynnal yn yr Alban yn cynnig cyfle cyffrous ac unigryw i gynulleidfaoedd, cyfranogwyr, cymunedau ac ymwelwyr i brofi rhaglenni creadigol arloesol sydd wedi'u cynllunio i holi, pryfocio, denu ac ennyn chwilfrydedd, wrth arddangos talentau creadigol anhygoel ymarferwyr STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celfyddydau, Mathemateg) ar draws yr Alban a'r DU.
Mae Dandelion yn fenter newydd arloesol sy'n gwahodd pobl ledled yr Alban i dyfu, rhannu a dathlu bwyd, cerddoriaeth, a syniadau gyda'u cymunedau ac ynddynt. Bydd yn dangos pŵer gweithredu ar y cyd mewn menter 'tyfu eich hun' ledled yr Alban. Wedi'i wreiddio yn yr Alban, gyda golwg ryngwladol a chynaliadwyedd wrth ei chalon, mae'r rhaglen Dandelion yn dilyn y tymor tyfu, o fis Ebrill i fis Medi 2022, a bydd yn gorffen gyda channoedd o ymgasgliadau Cynhaeaf ar draws yr Alban – gan ail-ddychmygu dathliad diwylliannol y cynhaeaf ar gyfer yr 21ain ganrif, dan arweiniad y cenedlaethau nesaf o gynhyrchwyr, cerddorion a thyfwyr.
Y tu hwnt i Dandelion, bydd yr Alban hefyd yn cynnal pum prosiect arall a gyflwynir fel rhan o UNBOXED. Dyma nhw: About Us (Paisley); StoryTrails (Dundee a Dumfries); Dreamachine (Caeredin); Green Space, Dark Skies (ar draws Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, gan gynnwys yr Alban).